Mae cyn-ymosodwr Caerdydd, Kevin Nugent wedi cael ei enwi’n rheolwr dros dro Leyton Orient, yn dilyn ymadawiad Russell Slade.
Mae disgwyl i Slade gael ei enwi’n rheolwr newydd Caerdydd yn ddiweddarach heddiw.
Nugent oedd is-reolwr Slade yn Leyton Orient.
Ymddiswyddodd Slade neithiwr wedi i’r clwb wrthod yr hawl iddo gynnal trafodaethau gyda Chaerdydd i olynu Ole Gunnar Solskjaer.
Mae Leyton Orient yn ceisio cyngor cyfreithiol yn dilyn ymddiswyddiad Slade.
Bydd Nugent yn gyfrifol am baratoi’r garfan ar gyfer eu gornest yn erbyn Rochdale ddydd Sadwrn.