Nos yfory fe fydd y Scarlets yn herio Caeredin yn Murrayfield.
Dim ond un newid sydd ymysg y blaenwyr o’r penwythnos diwethaf, gyda Rob McCusker yn safle’r wythwr a Rory Pitman ar fainc yr eilyddion. Mi fydd Samson Lee yn dychwelyd i’r Scarlets wedi iddo orffen ei waharddiad dros dro.
Yn ogystal, dim ond un newid sydd i’r olwyr a wnaeth dirio pum cais yn erbyn Benetton Treviso – bydd Aled Davies yn cymryd yr awenau fel mewnwr yn lle Gareth Davies a wnaeth dderbyn ergyd i’w ben yn erbyn Treviso yr wythnos diwethaf.
‘‘Rydym yn awyddus i berfformio’n dda oddi cartref yn ogystal ag ym Mharc y Scarlets. Rydym yn cynrychioli pobl yr ardal ac roedd nifer o bobl yn siomedig ar ôl y gêm yn erbyn Leinster,’’ meddai Wayne Pivac, rheolwr y Scarlets.
Mi fydd y gêm yn fyw ar BBC 2 Cymru am 7:30.
Tîm y Scarlets
Olwyr – Liam Williams, Harry Robinson, Gareth Owen, Scott Williams (Capten), Michael Tagicakibau, Rhys Priestland ac Aled Davies.
Blaenwyr – Rob Evans, Emyr Phillips, Rhodri Jones, Jake Ball, Johan Snyman, Aaron Shingler, John Barclay a Rob McCusker.
Eilyddion – Kirby Myhill, Phil John, Samson Lee, James Davies, Rory Pitman, Rhodri Williams, Steven Shingler ac Adam Warren