Mae blaenwr tîm rygbi’r gynghrair Scorpions De Cymru, Harry Cartwright wedi cael ei wahardd rhag chwarae am ddwy flynedd.
Cafodd ei wahardd yn dilyn prawf cyffuriau oedd wedi dangos bod olion o drostanolone, steroid sydd wedi cael ei wahardd, yn ei gorff.
Mae’r chwaraewr 19 oed o Wrecsam ar fenthyg o dîm Crusaders Gogledd Cymru, ac fe fethodd y prawf yn dilyn gêm yn erbyn Rhydychen ar Orffennaf 5.
Mae e wedi’i wahardd tan Orffennaf 24, 2016.
Mewn datganiad, dywedodd y ddau glwb o Gymru eu bod nhw’n cefnogi’r gwaharddiad.