Ole Gunnar Solskjaer
Mae Russell Slade wedi ymddiswyddo o’i swydd fel rheolwr Leyton Orient wrth i Gaerdydd barhau i ddangos diddordeb ynddo.
Mae Slade wedi bod yn ffefryn ar gyfer swydd Caerdydd ers dyddiau, ar ôl ymadawiad Ole Gunnar Solskjaer, ond hyd yn hyn dyw Leyton Orient heb roi caniatâd iddo siarad â’r Adar Gleision.
Dywedodd Orient mewn datganiad “nad yw hyn wedi digwydd ar hap” ac y byddai eu cyfreithwyr yn astudio’r llythyr o ymddiswyddiad a anfonodd Slade.
Fe geisiodd Caerdydd yn aflwyddiannus i siarad â Slade yr wythnos diwethaf, ac mae’r rheolwr ei hun wedi dweud ei fod yn falch fod ei enw yn yr het ar gyfer y swydd wag.
Cafodd Russell Slade ei enwi’n Rheolwr y Flwyddyn yng Nghynghrair Un y tymor diwethaf ar ôl gorffen yn drydydd yn y tabl ond colli yn y gemau ail gyfle.
Fodd bynnag dyw Leyton Orient heb ddechrau cystal eleni ac maen nhw’n 17eg ar hyn o bryd, gyda sôn ychydig wythnosau yn ôl fod y clwb yn ystyried rhoi’r sac i Slade oherwydd y dechrau gwael.
Mae Caerdydd yn 16eg yn y Bencampwriaeth ar hyn o bryd ar ôl dechrau siomedig i’r tymor hefyd.
Danny Gabbidon a Scott Young sydd wedi bod wrth yr awenau dros dro yn y ddwy gêm ddiwethaf, wrth i Gaerdydd gael gêm gyfartal 2-2 yn Derby yn y gynghrair ac yna colli 3-0 gartref i Bournemouth yng Nghwpan Capital One.