George North

Fe sgoriodd George North gais hwyr i Northampton ar brynhawn ddydd Sul i gipio pwynt bonws wrth iddyn nhw drechu Newcastle yn gyfforddus o 35-10.

Roedd Will Hooley, Alex Waller a Ken Pisi eisoes wedi sgorio i’r ymwelwyr yn erbyn tîm Warren Fury, cyn i North ychwanegu’r pedwerydd cais i roi sglein ychwanegol ar y fuddugoliaeth.

Caerfaddon sydd ar frig Uwch Gynghrair Aviva o hyd, fodd bynnag, a hynny ar ôl iddyn nhw roi crasfa anferth i Gaerlŷr o 45-0.

Dechreuodd Paul James i Gaerfaddon gyda Dominic Day ar y fainc, tra bod Owen Williams yn chwarae yn y canol i Gaerlŷr.

Saracens sydd yn ail o hyd a hynny ar ôl iddyn nhw gipio buddugoliaeth hwyr o 36-32 yn erbyn Gwyddelod Llundain.

Roedd Rhys Gill yn dechrau i’r tîm buddugol, tra bod Andy Fenby yn rhengoedd y gwrthwynebwyr wedi methu ag ychwanegu at y cais a sgoriodd yr wythnos diwethaf.

Colli eto oedd hanes Cymry Llundain gyda James Down, Nic Reynolds a Rob Lewis yn y tîm y tro hwn, wrth i Sale eu trechu’n gyfforddus o 46-8 gyda thîm oedd yn cynnwys Eifion Lewis-Roberts a Jonathan Mills.

Roedd Bradley Davies, John Yapp a Thomas Young i gyd ar fainc Wasps wrth iddyn nhw golli 26-23 yn erbyn Harlequins.

Ac yn y gêm nos Wener fe gollodd Caerloyw 22-25 i Gaerwysg, wrth i dîm James Hook a Richard Hibbard barhau â’u dechrau siomedig i’r tymor.

Trosodd Hook gais a chic gosb, ond doedd hynny ddim yn ddigon i drechu’r ymwelwyr oedd wedi cynnwys Phil Dollman ar y fainc.

Yr unig Gymry a chwaraeodd i glybiau Ffrainc dros y penwythnos oedd Jamie Roberts a Mike Phillips, a ddaeth oddi ar y fainc wrth i Racing Metro drechu Toulouse 27-16.

Seren yr wythnos: George North. Parhau â’i ddechrau da i’r tymor gyda chais arall.

Siom yr wythnos: Owen Williams. Cael ei symud i’r canol wrth i’w dîm gael cweir.