Gareth Bale

Rhwydodd Gareth Bale ddwy gôl wrth i Real Madrid rhoi hwb dda i’w tymor cymysglyd hyd yn hyn wrth drechu Deportivo La Coruna 8-2.

Roedd Los Blancos eisoes 3-1 ar y blaen pan ychwanegodd Bale ddwy yn yr ail hanner, gyda Ronaldo’n cwblhau hat-tric, James Rodriguez yn sgorio a Chicarito hefyd yn ychwanegu dwy gôl hwyr.

Yn Uwch Gynghrair Lloegr fe syfrdanodd Caerlŷr bawb wrth ddod nôl o fod yn colli 3-1 yn erbyn Man United i ennill 5-3, gydag Andy King yn dod ymlaen wrth i’w dîm gipio dwy gôl hwyr.

Chwaraeodd Joe Ledley ran lawn ym muddugoliaeth Crystal Palace wrth iddyn nhw synnu Everton a chipio tri phwynt wrth ennill 3-2 yn Goodison.

Roedd buddugoliaeth Aaron Ramsey ac Arsenal yn erbyn Aston Villa ychydig yn fwy cyfforddus wrth iddyn nhw ennill 3-0, er mai cymharol dawel oedd Ramsey ar y cyfan.

Ar ôl i Paul Dummett ac amddiffyn Newcastle ildio dwy gôl hyfryd i Hull fe lwyddon nhw i frwydo nôl am gêm gyfartal – canlyniad a allai fod wedi achub swydd Alan Pardew.

Dim cystal lwc i Ashley Williams a Neil Taylor yn nhîm Abertawe, fodd bynnag, wrth iddyn nhw golli 1-0 i Southampton ar ôl i Wilfried Bony weld cerdyn coch.

Daeth James Collins oddi ar y fainc wrth i West Ham warchod tri phwynt gwerthfawr yn erbyn Lerpwl, ond gwylio’r cyfan o’r ystlys wnaeth James Chester gyda Hull.

Y Bencampwriaeth

Fe arhosodd Nottingham Forest ar frig y Bencampwriaeth gyda gêm ddi-sgôr yn erbyn Jermaine Easter a Millwall, wrth i David Vaughan wneud ei ymddangosiad cyntaf o’r tymor dros Forest.

Fe fethodd Norwich â manteisio ar hynny wrth iddyn nhw gael gêm gyfartal yn erbyn Birmingham, oedd â David Cotterill yn y tîm.

Cododd Wolves i’r trydydd safle ar ôl trechu Bolton 1-0 gyda Lee Evans a Dave Edwards yn chwarae rhan unwaith eto, oedd yn golygu taith siomedig adref i Craig Davies.

Ond colli oedd hanes Reading o 1-0 yn erbyn Sheffield Wednesday gyda Chris Gunter a Jake Taylor yn dechrau unwaith eto, ond Hal Robson-Kanu dal ddim nôl.

Yng ngweddill y gynghrair fe chwaraeodd Andrew Crofts, Rhoys Wiggins, Joel Lynch, George Williams a Steve Morison.

Yn yr Alban fe chwaraeodd Ash Taylor dros Aberdeen a Kyle Letheren dros Dundee, er mai siomedig tu hwnt oedd prynhawn Letheren wrth i’w dîm golli 4-1 yn y ddarbi leol i Dundee United.

Ac yng Nghynghrair Un fe chwaraeodd Lewin Nyatanga, Gwion Edwards, Joe Walsh, Jake Cassidy a James Wilson.

Seren yr wythnos: Gareth Bale. Real a Bale yn tanio o’r diwedd i roi hwb i’w tymor.

Siom yr wythnos: Kyle Letheren. Canlyniad sâl i’w glwb yn y ddarbi leol, ac yntau’n ildio pedair.