Gweilch 62–13 Caeredin

Rhoddodd y Gweilch gweir go iawn i Gaeredin wrth i’r Albanwyr ymweld â’r Liberty yn y Guinness Pro12 brynhawn Sul.

Croesodd y Cymry am dri chais yn yr hanner cyntaf a doedd hi’n fawr o gystadleuaeth yn yr ail gyfnod wrth i’r tîm cartref dirio chwech arall.

Hanner Cyntaf

Cafwyd arwydd o’r hyn oedd i ddod ychydig dros funud o ddechrau’r gêm pan groesodd Rhys Webb am gais unigol gwych. Bylchodd y mewnwr ar y llinell hanner a rhedeg yr holl fordd i sgorio o dan y pyst.

Caeodd Tom Heathcote y bwlch gyda chic gosb wedi hynny ond buan iawn y daeth ail gais Webb ac ail gais y Gweilch. Roedd hwn yn un dipyn symlach wrth iddo blymio drosodd o un medr yn dilyn cyfnod hir o bwyso.

Bu rhaid aros tan wyth munud cyn yr egwyl am y trydydd cais pan groesodd yr wythwr, Dan Baker, yn dilyn sgarmes symudol effeithiol.

Daeth unig gais Caeredin wedi hynny pan diriodd Hamish Watson ar ôl cic a chwrs enfawr Tim Visser, ond y Gweilch gafodd air olaf yr hanner wrth i Dan Biggar gicio cic gosb, 24-13 y sgôr ar yr egwyl.

Ail Hanner

Roedd y fuddugoliaeth a’r pwynt bonws yn ddiogel wedi chwe munud o’r ail hanner diolch i drosgais Biggar, y maswr yn croesi wedi bylchiad gwreiddiol, Jeff Hassler. Hassler ei hun a gafodd y pumed gyda rhediad gwych o’i linell 22 medr ei hun.

Bu rhaid i’r Gweilch chwarae gyda phedwar dyn ar ddeg am ddeg munud wedi hynny oherwydd cerdyn melyn Justin Tipuric ond wnaeth hynny ddim atal Jonathan Spratt rhag gwasgu drwodd yn y gornel am chweched cais y tîm cartref.

Roedd Caeredin wedi rhoi’r ffidl yn y to erbyn y deg munud olaf ac fe groesodd y Gweilch am dri chais arall wrth i’r gêm fynd yn hynod agored. Manteisiodd Hanno Dirksen ar daclo gwan ar gyrion y ryc, rhyng-gipiodd Tom Grabham y bêl am yr wythfed cyn i’r eilydd, Tyler Ardron, gwblhau’r grasfa.

Mae’r canlyniad yn codi’r Gweilch i frig y Pro12 gyda phedwar pwynt ar ddeg allan o dair gêm.

.

Gweilch

Ceisiau: Rhys Webb 2’, 12’, Dan Baker 33’, Dan Biggar 46’, Jeff Hassler 50’, Jonathan Spratt 62’, Hanno Dirksen 70’, Tom Grabham 72’, Tyler Ardron 76’

Trosiadau: Dan Biggar 2’, 14’, 35’, 47’, 71’, Sam Davies 73’, 77’

Cic Gosb: Dan Biggar 40’

Cerdyn Melyn: Justin Tipuric 54’

.

Caeredin

Cais: Hamish Watson 37’

Trosiad: Tom Heathcote 39’, 44’

Ciciau Cosb: Tom Heathcote 8’, 43’