Airbus 2–0 Caerfyrddin

Roedd dwy gôl ail hanner yn ddigon i Airbus sicrhau buddugoliaeth wrth i Gaerfyrddin ymweld â’r Maes Awyr brynhawn Sul.

Rhwydodd Matty McGinn yn gynnar yn yr ail gyfnod cyn i Tom Field ddyblu’r fantais o’r smotyn hanner ffordd trwy’r hanner.

Airbus a gafodd y gorau o’r cyfleoedd mewn hanner cyntaf di sgôr. Daeth y cyntaf i Field yn y deg munud cyntaf yn dilyn symudiad slic ond ergydiodd yn syth at Lee Idzi yn y gôl.

Daeth Mike Pearson yn agos hefyd gydag ergyd o ochr y cwrt cosbi a aeth fodfeddi heibio’r postyn.

Peniad rhydd Kyle Bassett oedd cyfle gorau Caerfyrddin ond anelodd hwnnw dros y trawst. Cafodd Jordan Barrow gyfle da yn y pen arall ond anelodd heibio’r postyn pan ddylai fod wedi gwneud yn well.

Dechreuodd Caerfyrddin yr ail hanner yn addawol gyda Liam Thomas yn ergydio dros y trawst o bellter.

Ond Airbus oedd y tîm gorau wedi hynny ac roeddynt ar y blaen pan beniodd McGinn groesiad hir James Owen i’r gornel uchaf.

Roedd y canlyniad yn ddiogel ugain munud o’r diwedd wedi i’r dyfarnwr cynorthwyol farnu fod Cortez Belle wedi llorio Andy Jones yn y cwrt cosbi. 2-0 wedi i Field rwydo o ddeuddeg llath.

Prin oedd y cyfleoedd wedi hynny ond rheolodd Airbus y gêm wrth gadw eu gafael ar y tri phwynt.

Ymateb

Seren y gêm, amddifffynnwr Airbus, Mike Pearson:

“Roedden ni’n gwybod y byddai’n rhaid i ni fod yn amyneddgar a chymryd ein cyfleoedd pan ddaethon nhw yn yr ail hanner.”

Mae’r canlyniad yn codi Airbus i’r ail safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair, dri phwynt y tu ôl i’r Seintiau Newydd ar y brig.

“Rhaid i ni aros mor agos â phosib i TNS trwy gydol y tymor trwy gasglu tri phwynt mor aml â phosib, a dyna wnaethom ni heddiw.”

.

Airbus

Tîm: Coates, Owens, Short, Pearson, Kearney, Field (Williams 79’), Rule, Budrys (Jones 68’), Barrow, Owen, McGinn (Healing 86’)

Goliau: McGinn 51’, Field [c.o.s.] 72’

Cerdyn Melyn: Barrow 90’

.

Caerfyrddin

Tîm: Idzi, cummings, Hanford, Belle, K. Thomas (Harding 78’), Bassett, Fowler, Morgan, Farah (White 78’), Brooks (Hartland 57’), L. Thomas

Cerdyn Melyn: L. Thomas 23’

.

Torf: 370