Scarlets 43–0 Treviso

Daeth buddugoliaeth gyntaf y Scarlets o’r tymor mewn steil wrth iddynt roi cweir iawn i Treviso ar Barc y Scarlets nos Sadwrn.

Roedd dau gais yr un i Gareth Davies a Liam Williams wrth i Fois y Sosban groesi am saith i gyd wrth chwalu’r Eidalwyr yn y Guinness Pro12.

Cafwyd arwydd o’r hyn a oedd i ddod o fewn y munud cyntaf pan groesodd y bachwr, Emyr Phillips, am y cais cyntaf.

Gareth Davies oedd seren yr hanner cyntaf wedi hynny – y mewnwr yn croesi am ddau gais wrth i’r Scarlets adeiladu pedwar pwynt ar bymtheg o fantais erbyn yr egwyl.

Cymerodd bum munud o’r ail hanner i’r tîm cartref sicrhau’r pwynt bonws gyda’r cyntaf o ddau gais i’r cefnwr, Liam williams.

Ychwanegodd Johan Snyman bumed cyn i Williams groesi am ei ail ef a chweched ei dîm, a chwblhaodd y canolwr, Gareth Owen, y grasfa ddeunaw munud o’r diwedd.

Mae’r canlyniad yn codi’r Scarlets i’r chweched safle yn nhabl y Pro12, ar ôl ennill un, colli un a chael un gêm gyfartal.

.

Scarlets

Ceisiau: Emyr Phillips 1’, Gareth Davies 15’, 37’, Liam Williams 45, 51’, Johan Snyman 48’, Gareth Owen 63’

Trosiadau: Rhys Priestland 2’, 38’, 49’, 53’

.

Treviso

Cerdyn Melyn: Matthew Luamanu 44’