Amwythig 0–0 Casnewydd
Gêm gyfartal ddi sgôr a gafodd Casnewydd ar ôl teithio Greenhous Meadow i herio’r Amwythig brynhawn Sadwrn.
Gorffennodd yr Alltudion y gêm gyda deg dyn yn dilyn cerdyn coch Andrew Hughes ond daliodd tîm Justin Edinburgh.
Joe Day oedd yr arwr rhwng y pyst i Gasnewydd wrth i’r tîm cartref gael y gorau o’r meddiant a’r cyfleoedd.
Gwnaeth Day yn dda i atal cynigion Jermaine Grandison a James Vincent, a bu rhaid iddo yntau a gweddill y tîm weithio’n galed i gynnal y llechen lân yn y munudau olaf wedi i Hughes dderbyn cerdyn coch am drosedd ar James Wesolowski.
Mae’r pwynt yn codi Casnewydd i’r unfed safle ar bymtheg yn nhabl yr Ail Adran.
.
Amwythig
Tîm: Leutwiler, Goldson, Grandison, Ellis, Knight-Percival, Wesolowski, Woods, Mangan, Clark (Vincent 64′), Akpa-Akpro (Griffith 45′), Vernon (Collins 64′)
Caridau Melyn: Vernon 7’, Wesolowski 81’
.
Casnewydd
Tîm: Day, Poole (Jackson 68′) Jones, Hughes, Minshull, Sandell, Willmott, Chapman, Byrne, Pigott (Jolley 64′), Zebroski (O’Connor 80′)
Cardiau Melyn: Sandell 56’, Jackson 79’
Cerdyn Coch: Hughes 85’
.
Torf: 4,904