Derby 2–2 Caerdydd

Gêm gyfartal a gafodd Caerdydd yn erbyn Derby yng ngêm gyntaf y rheolwyr dros dro, Danny Gabbidon a Scott Young, wrth y llyw.

Mae pwynt yn Pride Park yn ddigon parchus ond bydd yr Adar Gleision braidd yn siomedig, wedi iddynt ildio dwy gôl o fantais am yr ail Sadwrn yn olynol. Roedd Aron Gunnarsson a Peter Wittingham wedi rhoi’r ymwelwyr ar y blaen cyn i Will Hughes a Craig Bryson daro nôl i Derby.

Llwyr reolodd Derby’r hanner cyntaf ond llwyddodd Caerdydd rywsut i’w chadw hi’n ddi sgôr er gwaethaf cyfleoedd da i Will Hughes a Jamie Ward.

Dechreuodd yr Adar Gleision yr ail hanner yn dipyn gwell ac roeddynt ddwy gôl ar y blaen o fewn dim.

51 munud oedd ar y cloc pan beniodd Matthew Connolly gic gornel Wittingham i gyfeiriad Gunnarsson i alluogi’r gŵr o Wlad yr Iâ i agor y sgorio.

Yna, dri munud yn ddiweddarach roedd Wittnigham ei hun wedi dyblu’r fantais gyda foli daclus yn dilyn gwaith da Anthony Pilkington ar yr asgell.

Ond yn debyg iawn i ddydd Sadwrn diwethaf yn erbyn Norwich, colli eu gafael ar y fantais a wnaeth Caerdydd.

Roedd Derby yn ôl o fewn gôl pan rwydodd Ibe ar yr awr yn dilyn gwaith da Cyrus Christie, ac roedd y tîm cartref yn gyfartal chwe munud o’r diwedd pan sgoriodd Bryson gyda chynnig da o bellter.

Mae’r pwynt yn codi Caerdydd un lle i’r unfed safle ar bymtheg yn nhabl yr Uwch Gynghrair.

.

Derby

Tîm: Grant, Keogh, Whitbread, Christie, Forsyth, Eustace (Best 59′), Bryson, Hughes, Ward (Russell 79′), Dawkins (Ibe 53′, Martin

Goliau: Ibe 61’, Bryson 84’

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Ecuele Manga, Brayford, Ralls, Connolly, Noone (Le Fondre 63′), Whittingham, Adeyemi, Gunnarsson (Maynard 72′), Pilkington, Jones

Goliau: Gunnarsson 51’, Wittingham 54’

Cardiau Melyn: Gunnarsson 62’, Wittingham 90’

.

Torf: 27,251