Abertawe 0–1 Southampton
Colli wnaeth deg dyn Abertawe yn erbyn Southampton brynhawn Sadwrn, a hynny ar ôl dechrau addawol i’r gêm ar y Liberty.
Yr Elyrch oedd y tîm gorau tan i Wilfred Bony gael ei anfon o’r cae bum munud cyn yr egwyl, ond dim ond un tîm oedd ynddi wedi hynny wrth i Southampton ennill diolch i gôl Victor Wanyama ddeg munud o’r diwedd.
Doedd dim dwywaith mai’r tîm cartref a gafodd y dechrau gorau a bu bron i Wayne Routledge eu rhoi ar y blaen wedi ychydig llai na hanner awr yn dilyn gwaith creu da Gylfi Sigurdsson, ond tarodd ergyd Routledge yn erbyn y trawst.
Bu rhaid i Ryan Bertrand fod ar flaenau’i draed yn fuan wedyn i glirio peniad Bony oddi ar y llinell, ond hwnnw oedd un o gyfraniadau olaf y blaenwr o’r Traeth Ifori wrth iddo gael ei anfon oddi ar y cae yn fuan wedyn.
Roedd Bony eisoes wedi derbyn cerdyn melyn am un dacl flêr ar Mayo Yoshida pan loriodd y gŵr o Siapan am yr eildro, derbyn ail gerdyn melyn a cherdyn coch bum munud cyn yr egwyl.
Cynyddodd Southampton y pwysau’n raddol ar y deg dyn wrth i’r ail hanner fynd yn ei flaen ac roeddynt yn haeddu mynd ar y blaen pan wnaethant hynny ddeg munud o’r diwedd.
Daeth Graziano Pellè o hyd i Wanyama yn y cwrt cosbi a defnyddiodd yntau ei gryfder i guro’i ddyn cyn tanio ergyd nerthol i gefn y rhwyd.
Cafodd Abertawe hi’n anodd ymateb gydag un dyn yn llai ac fe ddaliodd Southampton eu gafael ar y tri phwynt.
Mae Southampton yn neidio dros yr Elyrch i’r ail safle yn y tabl, wrth i dîm Garry Monk lithro i’r pumed safle.
Abertawe
Tîm: Fabianski, Williams, Taylor, Fernández, Rangel, Shelvey, Dyer (Montero 59′), Routledge, Ki Sung-yueng (Emnes 85′), Sigurdsson, Bony
Cardiau Melyn: Bony 20’, 39’
Cerdyn Coch: Bony 39’
.
Southampton
Tîm: Forster, Yoshida (Gardos 45′), Fonte, Bertrand, Clyne, Ward-Prowse (Wanyama 69′), Cork (Davis 64′), Schneiderlin, Tadic, Pellè, Long
Gôl: Wanyama 80’
Cardiau Melyn: Fonte 21’, Yoshida 31’, Bertrand
.
Torf: 20,596