Dreigiau Casnewydd Gwent 13–33 Glasgow
Colli fu hanes y Dreigiau yn erbyn Glasgow ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn er i’r ymwelwyr chwarae hanner y gêm Guinness Pro12 gyda phedwar dyn ar ddeg.
Glasgow oedd ar y blaen ar hanner amser ond rhoddwyd llygedyn o obaith i’r Dreigiau ar ddechrau’r ail gyfnod gyda cherdyn coch Tyrone Holmes. Ond chafodd y cerdyn coch fawr o effaith ar Glasgow wrth iddynt fynd yn eu blaen i ennill y gêm yn gyfforddus.
Hanner Cyntaf
Cafodd Glasgow’r dechrau perffaith wrth i’r canolwr, Alex Dunbar, groesi am y cais agoriadol wedi dim ond pedwar munud.
Llwyddodd Duncan Weir gyda’r trosiad cyn ychwanegu cic gosb hefyd i roi’r ymwelwyr ddeg pwynt ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf.
Fe sgoriodd Angus O’Brien bwyntiau cyntaf y Dreigiau gyda chic gosb yn fuan wedyn ond roedd yr Albanwyr yn ôl ddeg pwynt ar y blaen erbyn yr egwyl diolch i dri phwynt o droed Stuart Hogg o’r llinell hanner.
Ac i rwbio’r halen yn y briw i’r Dreigiau, fe dderbyniodd eu prop, Lloyd Fairbrother, gerdyn melyn yn eiliadau olaf y deugain munud agoriadol.
Ail Hanner
Dechreuodd y Dreigiau’r ail hanner gydag un dyn yn llai felly, ond roedd Glasgow lawr i bedwar dyn ar ddeg hefyd o fewn munud wedi i’r blaenasgellwr, Tyrone Holmes, dderbyn cerdyn coch am sathru ar T. Rhys Thomas.
Cyfnewidiodd O’Brien a Weir gic gosb yr un cyn i Fairbrother ddychwelyd i’r cae gan adael hanner awr i bymtheg dyn y Dreigiau gau’r deg pwynt o fwlch.
Ond, parhau i reoli a wnaeth yr ymwelwyr er gwaethaf mantais rifyddol y Cymry. Fe groesodd Glasgow am dri chais arall wrth i Josh Strauss, Tommy Seymour a Tim Swinson sicrhau pwynt bonws
Un cais i’r mewnwr, Richie Rees, oedd unig ymateb y Dreigiau wrth iddynt gael eu curo’n gyfforddus gan bedwar dyn ar ddeg.
Mae’r Dreigiau yn aros yn y degfed safle yn nhabl y Pro12, gyda dim ond yr Eidalwyr, Treviso a Zebra oddi tanynt.
.
Dreigiau
Cais: Richie Rees 57’
Trosiad: Elliott Dee 58’
Ciciau Cosb: Angus O’Brien 23’, 46’
Cerdyn Melyn: Lloyd Fairbrother 39’
.
Glasgow
Ceisiau: Alex Dunbar 4’, Josh Strauss 54’, Tommy Seymour 68’, Tim Swinson 77’
Trosiadau: Duncan Weir 5’, 55’
Ciciau Cosb: Duncan Weir 18’, 48’, Stuart Hogg 28’
Cerdyn Coch: Tyrone Holmes 41’