Y clo o Dde Affrica Rynard Landman fydd yn arwain y Dreigiau yn erbyn Glasgow ar Rodney Parade yfory.

Bydd Landman sy’n 28 oed yn arwain tîm ifanc y Dreigiau yn absenoldeb y capten Lee Byrne sy’n dioddef o anaf a gafodd yn erbyn y Gweilch y penwythnos diwethaf.

Bydd Hallam Amos yn symud o’r asgell i safle’r cefnwr.  Tom Prydie a Aled Brew fydd yr asgellwyr.  Mae Cyfarwyddwr Rygbi’r Dreigiau Lyn Jones wedi dewis partneriaeth newydd yn y canol sef Ben John a ddaeth o’r Gweilch a Dorian Jones.

Ar ôl cael gêm dda wythnos yn ôl Angus O’Brien fydd y maswr a’r profiadol Richie Rees yn safle’r mewnwr.  Y ddau brop fydd Boris Stankovich a Lloyd Fairbrother gyda Elliot Dee yn gorfod bodloni ar le ar y fainc.  Mae’r bachwr T. Rhys Thomas yn dechrau am y tro cyntaf yn y Pro 12, a Cory Hill a’r capten Landman fydd y ddau glo.  Y Llew, Taulupe Faletau fydd yr wythwr a Lewis Evans a Nic Cudd fel blaenasgellwyr.

Fe wnaeth y Dreigiau y dwbwl yn erbyn Glasgow y tymor diwethaf ac yn sicr fe fyddant yn edrych am fuddugoliaeth ar Rodney Parade yfory.

Tîm y Dreigiau

Olwyr – Hallam Amos, Tom Pydie, Ben John, Dorian Jones, Aled Brew, Angus O’Brien a Richie Rees.

Blaenwyr – Boris Stankovich, T. Rhys Thomas, Lloyd Fairbrother, Cory Hill, Rynard Landman (Capten), Lewis Evans, Nic Cudd a Taulupe Faletau.

Eilyddion – Elliot Dee, Hugh Gustafson, Dan Way, Matthew Screech, Andy Powell, Luc Jones, Ashton Hewitt a Barney Nightingale.