Justin Tipuric
Mae blaenasgellwr y Llewod a Chymru Justin Tipuric yn dychwelyd i dîm y Gweilch ddydd Sul ar ôl gwella o anaf i’w ysgwydd.

Nid yw Tipuric wedi chwarae y tymor hwn ac fe gollodd daith tîm Cymru i Dde Affrica yn sytod yr haf ar ôl cael llawdriniaeth ar ei ysgwydd yn ystod mis Mai.

Mae Eli Walker, a sgoriodd gais yn erbyn y Dreigiau y penwythnos diwethaf, yn colli’r gêm yn erbyn Caeredin oherwydd anaf i’w ysgwydd.

Meddai Steve Tandy, Prif Hyfforddwr y Gweilch: ‘‘Mi fydd y gêm ddydd Sul yn dipyn o brawf i ni.  Mae yna dipyn o gyfrifoldeb ar ysgwyddau chwaraewyr fel Dan Biggar, Alun Wyn Jones a Justin Tipuric i sicrhau ein bod yn perfformio yn ystod y cyfnodau anodd.’’

Mi fydd y gêm yn fyw ar S4C.

Tîm y Gweilch

Olwyr – Dan Evans, Jeff Hassler, Jonathan Spratt, Josh Matavesi, Hanno Dirksen, Dan Biggar a Rhys Webb.

Blaenwyr – Nicky Smith, Scott Baldwin, Aaron Jarvis, Alun Wyn Jones (Capten), Rynier Bernardo, James King, Justin Tipuric a Dan Baker.

Eilyddion – Sam Parry, Duncan Jones, Dmitri Arhip, Tyler Ardron, Morgan Allen, Martin Roberts, Sam Davies a Tom Grabham.