Bydd y Gleision yn gorffwys capten Cymru Sam Warburton heno ar gyfer y gêm yn erbyn Ulster. Josh Navidi fydd yn cymryd ei le fel blaenasgellwr ochr agored. Mae’r cytundeb canolog sydd gan Warburton gyda Undeb Rygbi Cymru yn cyfyngu y nifer o gemau y gall chwarae dros y rhanbarth.
‘‘Mae gennym gytundeb gyda’r Undeb pryd y bydd Warburton ar gael yn ystod y tymor,’’ meddai Mark Hammett, Cyfarwyddwr Rygbi’r Gleision.
Bydd Rhys Patchell yn dechrau fel cefnwr yn lle Dan Fish sydd wedi ei anafu, a bydd Gareth Davies yn dechrau fel maswr am y tro cyntaf y tymor hwn gyda Richard Smith ar yr asgell.
Ychwanegodd Hammett: ‘‘Yr ydym wedi penderfynu gwneud newidiadau yn y rheng-ôl er mwyn sicrhau ein bod yn cael y gorau o Warburton yn y tymor hir a hefyd rhoi cyfle haeddiannol i Josh Navidi greu argraff. Bydd y gêm yn gyfle arall i ni asesu ein hunain fel carfan. Yr ydym wedi ymateb yn dda ar ôl colli 33-12 i Glasgow y penwythnos diwethaf.’’
Mi fydd y gêm yn fyw ar BBC 2 Cymru am 7:35 heno.
Tîm y Gleision
Olwyr – Rhys Patchell, Alex Cuthbert, Adam Thomas, Gavin Evans, Richard Smith, Gareth Davies a Lewis Jones.
Blaenwyr – Sam Hobbs, Matthew Rees (Capten), Adam Jones, Jarrad Hoeata, Filo Paulo, Josh Turnbull, Josh Navidi a Manoa Vosawai.
Eilyddion – Rhys Williams, Taufa’ao Filise, Scott Andrews, Macauley Cook, Ellis Jenkins, Lloyd Williams, Cory Allen a Geraint Walsh