Craig Bellamy - rhy gynnar
Mae’n ymddangos na fydd y ddau Gymro, Tony Pulis a Craig Bellamy, ar y rhestr fer i fod yn rheolwr nesa’ clwb pêl-droed Dinas Caerdydd.

Fe ddywedodd Bellamy, un o gyn chwaraewyr y clwb, ei bod yn rhy gynnar iddo gael swydd o’r fath ac mae’n ymddangos nad yw Tony Pulis yn cael ei ystyried gan Gaerdydd.

Y disgwyl yw y bydd y perchennog, Vincent Tan, eisiau dyn ifanc i fod yn hyfforddwr yn hytrach nag i fod yn gyfrifol am yr holl faterion pêl-droed.

Bellach, mae enw cyn reolwr Celtic, Neil Lennon, yn cael ei drafod ynghyd â sawl rheolwr di-waith arall.

Bellamy ‘wedi cael cynnig o’r blaen’

Dyw’r clwb ddim wedi gwneud datganiad swyddogol ers yr un yn egluro pam fod Ole Gunnar Solskjaer wedi gadael y swydd.

Fe ddywedodd Craig Bellamy ei fod wedi cael cynnig y swydd cyn i Ole Gunnar Solskjaer gael ei benodi.

Roedd wedi dweud ar y pryd nad oedd yn barod, meddai, ac fe fyddai’n dweud yr un peth eto.