Leigh Halfpenny
Mae cadeirydd Toulon, Mourad Boudjellal, wedi awgrymu’i fod yn ystyried diddymu cytundeb cefnwr Cymru Leigh Halfpenny oherwydd ei broblemau gyda’i anafiadau.

Fe fethodd Halfpenny ddiwedd y tymor diwethaf gyda’r Gleision oherwydd anaf i’w ysgwydd, ac ers symud i Ffrainc dros yr haf dyw e heb chwarae dros ei glwb newydd oherwydd problem gyda’r forddwyd.

Mae’n bosib y bydd yn rhaid iddo dderbyn triniaeth bellach, ac mae hynny i’w weld wedi cythruddo Boudjellal sydd wedi mynnu nad cadw’r cefnwr yn ffit jyst ar gyfer Cymru yw blaenoriaeth Toulon.

“Mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â’r broblem heddiw oherwydd mae angen ciciwr o’r safon uchaf arnom ni. Rydym ni’n aros am ddiweddariad meddygol,” meddai’r cadeirydd wrth bapur newydd Ffrengig Varmatin.

“Byddai wedi bod yn ddwy neu dair wythnos arall. Ond y broblem nawr yw ein bod ni’n credu’i fod wedi cyrraedd Toulon gyda’r anaf.

“Os mai dyma’r achos, mae’n bosib y gallwn ni ddiddymu’i gytundeb.

“Rydyn ni’n talu digon am chwaraewyr [pan maen nhw ffwrdd gyda’r garfan ryngwladol]. Dydyn ni ddim yn teimlo fel paratoi Halfpenny ar gyfer Cymru jyst ar gyfer Cwpan y Byd.”

Petai Halfpenny’n gadael Toulon, oedd yn bencampwyr Ewrop llynedd, mae’n bosib y gallai ddychwelyd i Gymru ar gytundeb deuol gydag Undeb Rygbi Cymru fel y mae Sam Warburton ar hyn o bryd.