Sam Vokes
Mae ymosodwr Burnley Sam Vokes wedi dweud ei fod yn gobeithio bod yn holliach ar gyfer dwy gêm ragbrofol Cymru ym mis Hydref.
Fe fethodd Vokes ddiwedd y tymor diwethaf ar ôl cael anaf difrifol i’w ben-glin, ac roedd disgwyl na fyddai’n holliach nes mis Rhagfyr.
Ond mae’r ymosodwr wedi bod yn gwella’n sydyn o’i anaf, a bellach wedi dechrau ymarfer yn llawn unwaith eto wrth iddo geisio adennill ei ffitrwydd ac ystwytho’r ben-glin.
Bydd Cymru’n herio Bosnia-Herzegovina yn eu gêm ragbrofol Ewro 2016 nesaf ar nos Wener 10 Hydref yn Stadiwm Dinas Caerdydd, cyn i Giprys ymweld â’r brifddinas dridiau’n ddiweddarach.
Vokes oedd dewis cyntaf Chris Coleman fel ymosodwr cyn iddo gael ei anafu, a chyda diffyg dyfnder yn y safle fe fyddai rheolwr Cymru wrth ei fodd yn ei groesawu nôl.
Ond dyw’r ymosodwr 24 oed, a sgoriodd 21 gôl i Burnley’r tymor diwethaf, ddim yn rhoi gormod o bwysau ar ei hun.
“Os ydw i nôl yn chwarae gemau fe fuaswn i wrth fy modd yn bod yn rhan o’r gemau hynny,” meddai Vokes.
“Ond dw i ddim am roi pwysau ar fy hun i fod yn ffit ar eu cyfer.
“Mae yna lot o focsys dw i angen eu ticio nes alla’i gyhoeddi mod i’n ffit.”
Gwella’n araf
Fe fydd Burnley’n awyddus i gael Vokes yn ôl mor fuan â phosib er mwyn iddo ailgydio’r bartneriaeth â Danny Ings yn yr ymosod a cheisio cadw’r clwb yn yr Uwch Gynghrair.
Mae Cymru hefyd yn awyddus i’w weld yn ôl ar gyfer gemau’r hydref, gan fod Hal Robson-Kanu wedi bod yn dioddef o anafiadau hefyd a’r unig brif ymosodwr arall, Simon Church, ddim yn chwarae’n rheolaidd i Charlton.
Mae Vokes yn ymarfer ar laswellt unwaith eto bellach i geisio cryfhau’r ben-glin, pum mis a hanner ers iddo gael y driniaeth.
Ond mae’n cymryd y broses o wella un dydd ar y tro.
“Dw i wedi ticio’r bocs o redeg mewn llinellau syth a nawr dw i’n gweithio ar droi arno, sef y prif beth mae’r ben-glin yn ei wneud yn y bôn,” meddai Vokes.
“Dyna yw’r prif beth, peidio ceisio gwneud gormod ar unwaith pan rydych chi’n dechrau rhedeg y tu allan a pheidio sbrintio’n syth.
Rydych chi’n meddwl eich bod chi’n barod, ond pan ‘dych chi’n dechrau troi arni ‘dych chi’n teimlo’r poenau sy’n dod gyda hynny. Mae jyst yn fater o weld sut mae e a sut mae’n ymateb pob dydd.”