Andy Fenby
Sgoriodd Andy Fenby ail gais Gwyddelod Llundain wrth iddyn nhw gipio buddugoliaeth o 20-18 draw yn Newcastle dros y penwythnos.
Rhoddodd gais Fenby ei dîm ddeg pwynt ar y blaen, er bod y dorf gartref yn hawlio fod y bas olaf iddo wedi mynd ymlaen, ac fe lwyddodd y Gwyddelod i oroesi cais hwyr gan Newcastle i gipio’r pwyntiau.
Ni chafodd George North gystal lwc gan y dyfarnwr ar y sgrin ar ôl i’w gais ef i Northampton beidio â chael ei ganiatáu oherwydd ei fod yn camsefyll.
Yn anffodus i Northampton roedd hwnnw’n benderfyniad costus, wrth i Wasps gipio buddugoliaeth o 20-16 ar ôl dwy gais gyflym yn yr ail hanner.
Cafodd Cymry Llundain grasfa arall yn Uwch Gynghrair Lloegr, y tro hwn o 53-26 yn erbyn Caerfaddon, gyda Nathan Trevett a James Down yn eu tîm.
Fe lwyddon nhw i gipio pwynt bonws am sgorio pedair cais, o leiaf, ond roedd Caerfaddon gyda Paul James a Dominic Day yn eu plith yn llawer rhy gryf.
Roedd Caerloyw hefyd yn enillwyr mewn gêm gyffrous yn erbyn Sale ar ddydd Sadwrn gyda James Hook a Richard Hibbard yn chwarae, a Marc Jones, Jonathan Mills ac Eifion Lewis-Roberts yn y tîm a gollodd 34-27.
Cipiodd Caerlŷr fuddugoliaeth o 24-20 draw yng Nghaerwysg, gydag Owen Williams yn dod oddi ar y fainc a throsi cic gosb hwyr i sicrhau’r canlyniad, ac fe ddaeth Rhys Gill oddi ar fainc Saracens hefyd wrth iddyn nhw chwalu Harlequins 39-0.
Jamie Roberts a Mike Phillips oedd yr unig Gymry i chwarae o’r rheiny sydd allan yn Ffrainc, ond fe gawson nhw brynhawn digon braf wrth i Racing Metro drechu Lyon 28-11.
Honno oedd trydedd fuddugoliaeth y tymor i’r tîm o Baris, ac maen nhw nawr wedi codi i’r chweched safle yn y Top14.
Seren yr wythnos: Andy Fenby. Cais pwysig i helpu’i dîm i fuddugoliaeth.
Siom yr wythnos: George North. Anlwcus i beidio â chael ei bedwerydd cais o’r tymor.