Gareth Bale
Fe aeth dechrau siomedig Real Madrid i’r tymor o ddrwg i waeth dros y penwythnos ar ôl iddyn nhw golli 2-1 gartref yn erbyn eu gelynion mawr Atletico Madrid yn La Liga.

Ni lwyddodd Gareth Bale i gael yr un argraff ar y gêm ag y cafodd yng nghrys coch Cymru nos Fawrth, ac fe ddaeth oddi ar y cae ar ôl 72 munud wrth i Real golli’u hail gêm gynghrair yn olynol.

Mae’r canlyniad yn golygu mai dim ond un fuddugoliaeth sydd ganddyn nhw mewn tair gêm hyd yn hyn, ac maen nhw eisoes chwe phwynt y tu ôl i Barcelona ar y brig.

Yn yr Uwch Gynghrair fe fethodd Abertawe’r cyfle i symud i frig y tabl ar ôl colli 4-2 yn Chelsea – er eu bod nhw wedi mynd ar y blaen ar ôl i John Terry rwydo i’w gôl ei hun o groesiad Neil Taylor.

Yn anffodus i Ashley Williams ni chafodd lawer o lwc yn erbyn ymosodwr Chelsea Diego Costa, a orffennodd y gêm gyda hat-tric.

Fe fethodd Arsenal y cyfle i sicrhau buddugoliaeth werthfawr ar ôl i Man City gipio pwynt yn yr Emirates, a hynny ar ôl i Aaron Ramsey greu gôl gyntaf y Gunners wrth iddi orffen yn 2-2.

Ar ôl iddyn nhw chwarae gemau llawn i Gymru yng nghanol yr wythnos doedd Joe Allen a Ben Davies ddim yn ffit i ymddangos i’w clybiau.

Yr unig Gymry eraill yn y Prem dros y penwythnos felly oedd Andy King, a ddaeth oddi ar y cae ar yr egwyl yng ngêm Caerlŷr, a Jonathan Williams ddaeth ymlaen am chwarter awr i Crystal Palace.

Y Bencampwriaeth

Yn y Bencampwriaeth colli oedd hanes Caerdydd o 4-2 yn erbyn Norwich – a hynny er bod yr Adar Gleision 2-0 ar y blaen ar yr egwyl.

Roedd yn golygu ei bod hi’n brynhawn sâl i Declan John, a ddaeth ymlaen ar hanner amser i Gaerdydd, cyn gweld ei dîm yn ildio pedair.

Da oedd gweld Neal Eardley yn chwarae gêm lawn i Birmingham fodd bynnag, ar ôl ei drafferthion difrifol gydag anafiadau yn ddiweddar – cipiodd ei dîm ef a David Cotterill bwynt yn erbyn Leeds.

Fe enillodd Reading yn gyfforddus o 3-0 gyda Chris Gunter a Jake Taylor yn y tîm, tra bod Rhoys Wiggins a Charlton hefyd wedi ennill 1-0.

Ar benwythnos digon tawel i’r Cymry fe chwaraeodd Craig Davies, Andrew Crofts, Joel Lynch, Jermaine Easter, Emyr Huws a Dave Edwards i’w clybiau.

Ac yng Nghynghrair Un fe sgoriodd Tom Bradshaw i Walsall am yr ail wythnos yn olynol, gyda Lewin Nyatanga, Josh Pritchard, Joe Walsh, Jake Cassidy a James Wilson hefyd yn chwarae.

Seren yr wythnos: Aaron Ramsey. Neb fawr yn sefyll allan, ond Rambo’n edrych yn dda i Arsenal unwaith eto, a siŵr o fod yn falch o chwarae ar gae go iawn eto!

Siom yr wythnos: Joe Ledley. Collodd ei le yng nghanol cae Crystal Palace i James McCarthy, y gŵr sydd newydd symud o Wigan, ac fe fydd yn awyddus i’w hennill hi nôl.