Gleision Caerdydd 12–33 Glasgow
Newidiodd y gêm hon rhwng y Gleision a Glasgow yn y Guinness Pro12 yn llwyr mewn cyfnod o ddeg munud yn yr ail hanner ar Barc yr Arfau brynhawn Sul.
Roedd hi’n gêm agos am bron i awr ond newidiodd y cyfan wedi hynny wrth i Glasgow sgorio ugain pwynt sydyn yn dilyn dyfodiad yr haneri, Niko Matawalu a Duncan Weir, i’r cae.
Hanner Cyntaf
Chwe phwynt yr un oedd hi hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf wedi i’r maswr cartref, Rhys Patchell, a mewnwr yr ymwelwyr, Henry Pyrgos, lwyddo gyda dwy gic gosb yr un.
Roedd y ddau dîm yn ceisio chwarae rygbi agored ond yn gwneud gormod o gamgymeriadau wrth drin y bêl.
A phan gafwyd y cais agoriadol chwe munud cyn yr egwyl, fe ddaeth o unman. Cipiodd asgellwr Glasgow, Sean Lamont, y bêl o ardal y dacl yn ei hanner ei hun cyn rhedeg yr holl ffordd at y llinell gais i sgorio.
Llwyddodd Pyrgos gyda’r trosiad, 6-13 y sgôr ar yr egwyl.
Ail Hanner
Dechreuodd yr ail hanner yn dda i’r Gleision wrth iddynt gael dipyn o lwyddiant yn erbyn Glasgow yn y sgrym ac ardal y dacl.
Caeodd Patchell y bwlch i bedwar pwynt gyda mynydd o gic gosb o’i hanner ei hun, cyn ei gau ym mhellach i un pwynt wedi i Gordon Reid gael ei anfon i’r gell gosb am drosedd yn ardal y dacl.
Dim ond pwynt oedd ynddi felly gyda 25 munud i fynd ond newidiodd y gêm yn llwyr pan ddaeth y mewnwr, Niko Matawalu, i’r cae i’r Albanwyr.
Croesodd y gŵr o Fiji am gais yn y gornel gydag un o’i gyffyrddiadau cyntaf cyn ychwanegu un arall o dan y pyst ddeuddeg munud o’r diwedd.
Fe lwyddodd eilydd arall, Duncan Weir, gyda’r ddau drosiad yn ogystal â dwy gic gosb wrth i Glasgow fynd â’r gêm o afael y Gleision gydag ugain pwynt mewn deg munud.
Felly yr arhosodd pethau tan y diwedd wedyn i’r Gleision dalu’n ddrud am chwarter olaf siomedig.
Ymateb
Macauley Cook, blaenwr y Gleision:
“Eithaf siomedig yn y diwedd, fe wnaethom ni gwpl o gamgymeriadau yn yr ail hanner, roedd cwpl o’u ceisiau nhw yn rhai hawdd i’w hamddiffyn ond roeddem ni’n rhy araf yn cyrraedd ardal y dacl.”
“Roedd hi’n gêm agos am awr ond mae tîm fel Glasgow yn gallu sgorio o unrhyw le felly allwch chi ddim gwneud camgymeriadau fel hynny.”
.
Gleision
Ciciau Cosb: Rhys Patchell 4’, 19’, 48’, 57’
.
Glasgow
Ceisiau: Sean Lamont 34’, Niko Matawalu 58’, 68’
Trosiadau: Henry Pyrgos 35’, Duncan Weir 58’, 69’
Ciciau Cosb: Henry Pyrgos 8’, 13’, Duncan Weir 63’, 67’
Cerdyn Melyn: Gordon Reid 56’