Y Rhyl 3–2 Bangor

Y Rhyl aeth â hi ar y Belle Vue brynhawn Sul mewn gêm gyffrous yn erbyn Bangor yn Uwch Gynghrair Cymru.

Brwydr rhwng y ddau dîm ar y gwaelod oedd hi ac fe aeth Bangor ddwy gôl ar y blaen yn yr hanner cyntaf diolch i Jack Laird a Les Davies. Ond tarodd y tîm cartref yn ôl yn yr ail gyfnod gan ei hennill hi yn hwyr gyda hatric Aaron Bowen.

Hanner Cyntaf

Er i Matty Woodward gael cyfle dwbl i roi’r tîm cartref ar y blaen yn gynnar yr ymwelwyr o Fangor oedd y tîm gorau am rannau helaeth o’r hanner cyntaf.

Aethant ar y blaen wedi dim ond chwe munud pan lithrodd Jack Laird y bêl i’r gornel isaf ar ôl cael ei ryddhau un-ar-un gyda’r gôl-geidwad gan Les Davies.

Tarodd Declan Walker y postyn i Fangor wedi hynny gyda chynnig da o ongl dynn, er y dylai fod wedi pasio i Laird mewn safle gwell o bosib.

Daeth yr ail yn y diwedd saith munud cyn yr egwyl pan beniodd Davies i gefn y rhwyd o gic gornel Sion Edwards.

Cafwyd drama wedyn yn eiliadau olaf yr hanner wrth i Iolo Hughes glirio cynnig Bowen oddi ar linell gôl Bangor, gyda’r chwaraewyr a’r cefnogwyr cartref yn argyhoeddedig ei bod wedi croesi’r gwyngalch.

Ail Hanner

Roedd y Rhyl yn dîm gwahanol yn yr ail gyfnod ac roeddynt yn ôl yn y gêm ar ôl munud wrth i Bowen fanteisio ar lanast amddiffynnol i sgorio â pheniad rhydd.

Cliriodd Anthony Miley gynnig arall gan Bowen oddi ar y llinell cyn i Chris Roberts ddod o fewn trwch postyn i ymestyn mantais Bangor yn y pen arall.

Er bod y Rhyl yn gwella roedd y cloc yn ei herbyn ac roedd hi’n ymddangos y byddai Bangor yn dal eu gafael.

Yna, chwe munud o ddiwedd y naw deg fe unionodd Bowen gyda’i ail ef ac ail ei dîm pan gurodd gôl-geidwad Bangor, Jack Cudworth, i’r bêl a sgorio i rwyd wag.

Enillodd y Rhyl y gêm dri munud yn ddiweddarach pan gwblhaodd Bowen ei hatric gyda bwled o ergyd yn dilyn gwaith da Ashley Stott ar y dde.

Dipyn o ganlyniad i’r Rhyl felly a chanlyniad sydd yn eu codi dros Fangor o waelod y tabl i’r nawfed safle.

Ymateb

Seren y gêm, Aaron Bowen:

“ Roedd Greg [Strong, rheolwr y Rhyl] yn flin hefo ni ar hanner amser oherwydd natur dwy gôl Bangor yn yr hanner cyntaf, ond yn yr ail hanner, roedden ni’n hedfan, prin y daethon nhw allan o’u hanner nhw yn yr ail hanner”

.

Y Rhyl

Tîm: Ramsay, Woodward, Benson, Astles, McKenna, Makin, Cadwallader (Stott 70’), McManus, Bowen, Hughes (Walsh 89’), Forbes (Thompson 74’)

Goliau: Bowen 47’, 84’, 87’

Cardiau Melyn: Benson 28’, McManus 42’, Hughes 46’, Bowen 87’

.

Bangor

Tîm: Cudworth, Walker, Roberts, Johnston, Miley, Allen, R. Edwards, Hughes (Jones 90’), Davies, Laird (Warrington 82’), S. Edwards

Goliau: Laird 6’, Davies 38’

Cardiau Melyn: Edwards 30’, Allen 53’

.

Torf: 607