Dreigiau Casnewydd Gwent 15–17 Gweilch

Y Gweilch aeth â hi mewn gêm agos yn erbyn y Dreigiau ar Rodney Parade yn y Guinness Pro12 nos Wener.

Er i gicio cywir Angus O’Brien greu diweddglo cyffrous yng Nghasnewydd, roedd ceisiau Eli Walker a Rhys Webb ychydig funudau o bopty’r egwyl yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth i’r ymwelwyr.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd y gêm yn addawol gyda’r ddau dîm yn chwarae rygbi agored ymosodol yn y deg munud cyntaf.

Ond digon blêr a diflas oedd yr hanner awr nesaf wrth i’r ddau bac ei chael hi’n anodd plesio Nigel Owens yn y sgrym.

Daeth pwyntiau cyntaf y gêm o droed Jason Tovey wedi chwarter awr wrth i wyth blaen y Gweilch gael eu cosbi. Ac roedd y ddau dîm lawr i bedwar dyn ar ddeg chwarter awr cyn yr egwyl wrth i’r trafferthion barhau.

Unionodd Dan Biggar y sgôr gyda chic gosb bum munud yn ddiweddarach yn dilyn gwthiad arno gan Ian Gough, a’r Gweilch oedd ar y blaen erbyn yr egwyl diolch i gais o ddim byd i Eli Walker yn dilyn cic ddeheuig Rhys Webb, 3-10 i’r ymwelwyr wedi trosiad Biggar.

Ail Hanner

Daeth maswr tîm dan 20 Cymru, O’Brien, i’r cae fel eilydd i’r Dreigiau ar ddechrau’r ail hanner gan greu dipyn o argraff. Caeodd y bwlch i bedwar pwynt yn fuan iawn gyda’i gic gosb gyntaf.

Dilynodd ail gais y Gweilch yn fuan wedyn wrth i ffug bas Webb dwyllo amddiffyn y Dreigiau a’i alluogi i sgorio o dan y pyst.

Roedd dwy sgôr ynddi yn dilyn trosiad Biggar felly er i O’Brien gau’r bwlch i wyth pwynt gyda hanner awr i fynd.

Gorffennodd y Gweilch y gêm gydag un dyn yn llai yn dilyn cerdyn melyn i Walker ac fe greodd dwy gic gosb dda gan O’Brien ddiweddglo cyffrous.

A bu bron i’r maswr ifanc gipio’r fuddugoliaeth yn y munud olaf gyda chynnig am gôl adlam ond ei thynnu hi fymryn heibio’r postyn oedd ei hanes yn dilyn pas wael braidd gan ei fewnwr, Richie Rees.

Rhaid oedd i’r Dreigiau fodloni ar bwynt bonws yn unig am yr ail wythnos yn olynol felly wrth i’r Gweilch ennill o drwch blewyn.

.

Dreigiau

Ciciau Cosb: Jason Tovey 15’, Angus O’Brien 46’, 51’, 72’, 75’

Cerdyn Melyn: Lloyd Fairbrother 25’

.

Gweilch

Ceisiau: Eli Walker 37’, Rhys Webb 48’

Trosiadau: Dan Biggar 39’, 49’

Cic Gosb: Dan Biggar 31’

Cardiau Melyn: Nicky Smith 25’, Eli Walker 71’