Bydd Cynghrair y Principality yn dechrau ei degfed tymor yfory gyda phawb yn edrych ymlaen yn eiddgar at y gystadleuaeth.  Mae pawb sy’n ymwneud â’r gystadleuaeth yn gytûn ei bod wedi mynd o nerth i nerth yn ystod ei degawd cyntaf. Mae’r gynghrair hon yn cael ei gweld yn le delfrydol i feithrin chwaraewyr ar gyfer y rhanbarthau.

Dywedodd Prif Weithredwr Rygbi Cymru ei fod yn hynod o falch cael dathlu degfed pen-blwydd y gynghrair a’i bod yn rhan bwysig o hanes rygbi Cymru.  Yn ôl Roger Lewis dyna lle mae’r chwaraewyr rhyngwladol yn dechrau ar eu gyrfaoedd ac mae’r safon yn codi o hyd.

Yn ôl Prif Weithredwr Grwp y Principality maen nhw’n falch o gael dathlu’r deng mlynedd mewn partneriaeth gydag Undeb Rygbi Cymru.

‘‘Yr ydym yn falch cael helpu chwaraewyr i ddatblygu ar gyfer y llwyfan rhyngwladol.  Yr ydym yn edrych ymlaen i’r tymor gyda balchder,’’ meddai Graeme Yorston.

Safon yn codi

Bydd y Pencampwyr Pontypridd yn dechrau’r tymor adref yn erbyn Castell Nedd yfory.  Yn ôl hyfforddwr Castell Nedd, y cyn-chwaraewr rhyngwladol Rowland Phillips, mae’r safon wedi codi dipyn yn ystod y blynyddoedd ac mae gan nifer o’r chwaraewyr sy’n chwarae yn y gynghrair hon ddyfodol disglair.

‘‘Mae safon y meysydd wedi gwella a hefyd ansawdd yr hyfforddi,  Mae’r system yn gweithio ac mae nifer o’r chwaraewyr yn datblygu i chwarae gyda’r rhanbarthau ac yn rhyngwladol.  Mae’n bwysig bod y gynghrair hon yn cadw mewn cysylltiad gyda’r timau lleol ar ysgolion,’’ meddai.