Adam Jones
Mae prop Cymru, Adam Jones, wedi arwyddo gyda Gleision Caerdydd, wrth i ranbarth y brifddinas gipio’r chwaraewyr o dan drwynau’r Gweilch.

Cafodd Jones ei gynnwys yn llun swyddogol carfan y Gleision heddiw – a hynny cyn i’r un o’r ddau ranbarth gadarnhau ei fod wedi symud.

Fe gadarnhaodd y Gweilch y prynhawn yma na fydd Jones yn ailarwyddo gyda nhw bellach ar gyfer y tymor newydd, er gwaethaf y ffaith eu bod wedi dod i gytundeb ar lafar.

Mae Jones wedi bod heb glwb ers diwedd y tymor, gyda’r Gweilch yn dweud y gallwn nhw ddod i gytundeb ag ef unwaith y bydd y ffrae ariannol bresennol rhwng y rhanbarthau ac Undeb Rygbi Cymru’n dod i ben.

Symud yn sydyn

Y prynhawn yma fe ddaeth cadarnhad fod y Gleision wedi dwyn y blaen ar ranbarth Abertawe a Chastell-nedd, a chipio llofnod y prop ymysg yr ansicrwydd.

Dywedodd cadeirydd y Gleision, Peter Thomas, eu bod wedi symud yn sydyn pan glywon nhw fod Jones, sydd wedi ennill 95 cap dros Gymru, ar gael.

“Mae’n un o’r propiau gorau yn Ewrop a phan ddaeth yn glir ei fod ar gael fe wnaethon ni actio’n sydyn, gyda’n cyfarwyddwr rygbi [Mark Hammett] i sicrhau ei lofnod dros y 48 awr diwewthaf,” meddai Thomas.

Mewn datganiad fe gadarnhaodd y Gweilch na fydd yn aros y Stadiwm Liberty gyda nhw.

“Mae Adam Jones wedi cynghori Rygbi’r Gweilch heddiw na fydd yn ailarwyddo ac yn hytrach ei fod wedi arwyddo cytundeb gyda rhanbarth arall,” meddai datganiad y Gweilch.

“Rydym yn siomedig â’r canlyniad yma ar ôl gweithio’n agos gydag Adam dros gyfnod o fisoedd er mwyn canfod datrysiad i’r sefyllfa fyddai’n llesol i bawb.”

Y ffrae’n parhau

Fe gadarnhaodd y Gweilch mai’r rheswm nad oedden nhw wedi gallu arwyddo’r cytundeb roedden nhw wedi’i gytuno gyda Jones oedd oherwydd nad oedd Cytundeb Cyfranogiad wedi cael ei arwyddo gydag URC.

Mae’r Undeb a’r rhanbarthau wedi bod yn ffraeo dros faint ddylai gael ei dalu i’r rhanbarthau pan mae eu chwaraewyr i ffwrdd ar ddyletswydd ryngwladol gyda’r tîm cenedlaethol.

Fe arweiniodd y sefyllfa at Adam Jones yn gorfod ymarfer gyda Chastell-nedd tra’i fod yn aros i’r sefyllfa gael ei ddatrys.

Mae ansicrwydd hefyd yn parhau dros ddyfodol capten Cymru Sam Warburton, sydd ar gytundeb canolog gyda’r Undeb Rygbi.

Os na ddaw’r Undeb a’r rhanbarthau i gytundeb, ni fydd Warburton yn cael chwarae i’r un rhanbarth yn y tymor newydd ac mae posibiliad y bydd yn gorfod symud dramor.