Gorffennodd Beverley Jones yn chweched yn rownd derfynol y siot yn nosbarth F37 y bore ma.
Er iddi golli allan ar fedal, ei thafliad gorau oedd 9.01 metr, ei thafliad gorau’r tymor hwn.
Eva Berna o Weriniaeth Tsiec enillodd y fedal aur, gan dorri’r record Ewropeaidd gyda thafliad o 11.01 metr.
Aeth y fedal aur i Franziska Liebhardt o’r Almaen am dafliad o 10.66 metr, a’r fedal efydd i Irina Vertinskaya o Rwsia am dafliad o 10.49, ei record bersonol.
Ar ddiwedd y gystadleuaeth, dywedodd Beverley Jones: “Rwy’n hapus i ddod yma a sicrhau record bersonol am y tymor.
“Mae’n wych cael cystadlu yn eich gwlad eich hun a nawr bydda i’n canolbwyntio ar y ddisgen.”