Mae’r Brydeinwraig Stefanie Reid wedi dweud wrth Golwg360 ei bod hi’n nerfus ar drothwy ei ras yn y 100 metr yn nosbarth T44 yn Abertawe heddiw.
Collodd Reid allan ar gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow fis yma gan fod y dosbarthiadau wedi newid ar y funud olaf.
Er hynny, dydy hi ddim yn credu bod ganddi bwynt i’w brofi yn Abertawe heddiw, ac mi ddywedodd wrth Golwg360 gymaint wnaeth hi fwynhau’r profiad o fynd i’r Gemau.
“Dw i ddim yn teimlo bod gen i bwynt i’w brofi mewn gwirionedd. Ro’n i yn Glasgow gyda chriw lletygarwch BT ac fe ges i gyfle i wylio rhai o’r athletau.
“Dw i’n cofio eistedd yno mor hapus i’r athletwyr eraill ond hefyd mor eiddigeddus.
“Mae’n gyfle mor arbennig i gystadlu ar eich tomen eich hunan felly dyna dw i’n edrych ymlaen ato fan hyn.
“Mae hwn yn gyfle arall i fi gystadlu o flaen torf fy hunan adre a phan fyddan nhw’n bloeddio, ry’ch chi’n gwybod mai ar eich cyfer chi mae e, a dw i am fachu ar y cyfle hwn a phopeth sy’n dod gydag e.”
Er ei bod hi’n byrlymu â chyffro, mae’n cyfaddef ei bod hi’n teimlo’n fwy nerfus am y 100 metr heddiw nag ar gyfer y naid hir ddydd Gwener.
O edrych ar y cystadleuwyr sydd yn ei herbyn hi yn y 100 metr, mae’n hawdd gweld pam fod elfen o nerfusrwydd yn ei llais.
Mae’r ras yn debygol o fod yn frwydr agos rhwng y Ffrances Marie-Amelie Le Fur a’r Iseldirwraig Marlou van Rhijn.
Yn ogystal, bydd llygaid y dorf ar y Gymraes Laura Sugar.
Ychwanegodd Stefanie Reid: “Ry’n ni wedi egluro ein bod ni’n canolbwyntio ar y naid hir ond roedd yr amserlen yn addas ar ein cyfer ni hefyd. Mae hyn yn creu nerfusrwydd gan ‘mod i ddim yn gwybod sut gwna i.
“Dydyn ni’n sicr ddim wedi cyrraedd lefel o gysondeb yn y 100 metr ond mae’n dda weithiau cael rhoi eich hunan mewn sefyllfa anodd ac ro’n i wir eisiau’i wneud e gan ei fod e bron fel ymarfer ar gyfer mynd allan i wneud y naid hir.
“Bydda i’n cael blas ar y trac a sut mae pethau’n gweithio, felly dim ond gwella’r perfformiad ddydd Gwener wnaiff hynny.”
Bydd y ras 100m yn nosbarth T44 am 4.34 y prynhawn ma.