Mae Caerdydd wedi cadarnhau fod y cefnwr dde Kevin Theophile-Catherine wedi dychwelyd i Ffrainc am dymor ar fenthyg gyda St Etienne.
Fe arwyddodd y Ffrancwr i’r Adar Gleision yr haf diwethaf am £2m, gan chwarae 33 o weithiau iddyn nhw yn ystod y tymor a dreulion nhw yn yr Uwch Gynghrair.
Ond mae Ole Gunnar Solskjaer wedi bod yn awyddus i leihau maint ei garfan ar ôl arwyddo nifer o chwaraewyr dros yr haf, gyda’r amddiffynnwr Sean Morrison a’r asgellwr Anthony Pilkington ymysg y diweddaraf i gyrraedd.
Mae’n gadael John Brayford fel yr unig amddiffynnwr dde penodedig yn y garfan, er bod gan Gaerdydd opsiynau amddiffynnol eraill i’r safle gan gynnwys Fabio da Silva a Matthew Connolly.