Roedd siom i Olivia Breen yn y naid hir yn nosbarth T38 y bore ma, wrth iddi orffen yn bedwerydd yn y rownd derfynol.
Doedd ei naid hiraf o 4.20 metr ddim yn ddigon i gyrraedd safleoedd y medalau, wrth i Ramune Adomaitiene o Lithwania gipio’r fedal efydd gyda naid o 4.58 metr.
Margarita Goncharova gipiodd y fedal aur gyda naid hiraf o 4.86 metr, tra bod y fedal arian wedi mynd i Inna Stryzhak o’r Iwcrain gyda naid hiraf o 4.63 metr.
Ar ddiwedd y gystadleuaeth, dywedodd Olivia Breen: “Dwi’n hapus iawn gan ’mod i ond wedi bod yn gwneud y naid hir ers chwe mis.
“Byddai wedi bod yn wych cael bod ar y podiwm ond fe wnes i neidio fy naid gorau felly dw i’n hapus.
“Dw i’n edrych ymlaen at weddill y gystadleuaeth nawr gan fod gyda fi’r 100 metr a’r ras gyfnewid i ddod.”