Jenny McLoughlin yn rhedeg heddiw
Mae Jenny McLoughlin wedi curo’i hamser personol gorau wrth gyrraedd rownd derfynol y 100m yn nosbarth T37 ym Mhencampwriaethau Athletau Ewrop yr IPC.
Gorffennodd hi’r ras yn yr ail safle gydag amser o 14.38, tra gorffennodd un o’r ffefrynnau, Mandy Francois-Elie o Ffrainc yn gyntaf gan orffen y ras mewn 14.06 eiliad.
Ar ddiwedd y ras, dywedodd Jenny McLoughlin: “Rwy wir wrth fy modd i gyrraedd y rownd derfynol. Mae’n wych cael bod yma yn Abertawe ac roedd yr awyrgylch yn wych.
“Fe wnes i golli allan ar Lyon y llynedd…. Rwy’n edrych ymlaen at y ffeinal.”
Hefyd yn mynd drwodd o’r ras yma mae Marta Langner o Wlad Pwyl, tra bod Svetlana Sergeeva o Rwsia a Heather Jameson o Iwerddon yn mynd drwodd fel y rhai cyflymaf o blith y rhedwyr eraill.
Yn y rownd gyn-derfynol arall, Anna Sapozhnikova o Rwsia, Maria Seifert o’r Almaen a Zhanna Fekolina aeth drwodd, wrth i Sapozhnikova guro’i hamser gorau hithau (14.28).
Bydd y rownd derfynol heno am 5.20yh.