Sam Warburton
Ni fydd y Gleision yn cael dewis Sam Warburton mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Caerwysg ar ddydd Gwener oherwydd y ffrae barhaol rhwng y rhanbarthau ac Undeb Rygbi Cymru.
Fe arwyddodd capten Cymru gytundeb canolog gydag URC ar gyfer y tymor hwn, cytundeb fyddai’n golygu mai’r Undeb fyddai’n ei fenthyg i chwarae dros ei ranbarth yn hytrach na chael y Gleision i’w ryddhau ar gyfer gemau rhyngwladol.
Ond dyw’r ddwy ochr dal heb ddod i gytundeb am y setliad ariannol ar gyfer y tymor nesaf, ac ni fydd Warburton yn cael chwarae dros y Gleision nes y daw’r ddwy ochr i ddealltwriaeth.
Mae’r rhanbarthau eisiau mwy o arian gan yr Undeb bob tro y maen nhw’n rhyddhau chwaraewyr ar gyfer y tîm rhyngwladol, ond hyd yn hyn dyw’r Undeb ddim wedi cytuno i hynny.
Mae’r sefyllfa hefyd yn golygu nad oes gan brop Cymru Adam Jones glwb ar hyn o bryd, er nad yw ef wedi dewis arwyddo cytundeb canolog fel y mae Warburton wedi gwneud.
Yn hytrach, mae’n bwriadu arwyddo cytundeb newydd gyda’r Gweilch, ond dyw’r rhanbarth methu cadarnhau hynny nes y byddwn nhw wedi dod i ddealltwriaeth ariannol gyda’r Undeb.
Mae’n golygu fod Jones ar hyn o bryd yn ymarfer gyda chlwb Castell-Nedd, ble dechreuodd ei yrfa, wrth aros i’r mater gael ei sortio.