Gareth Bale
Bydd Gareth Bale nôl yng Nghaerdydd heno i chwarae gyda Real Madrid yn erbyn Sevilla am Super Cup UEFA.

Mae’r gêm flynyddol yn frwydr rhwng enillwyr Cynghrair y Pencampwyr ac enillwyr Cynghrair Ewropa.

Ond mae Gareth Bale wedi dweud ei fod o eisiau i’r sylw fod ar sicrhau’r tlws i’w glwb yn hytrach nag arno fo’n dychwelyd adref.

Ddoe, ar drothwy’r gêm rhybuddiodd UEFA, Cymdeithas Bêl-droed Cymru a CPD Dinas Caerdydd nad oes rhagor o docynnau ar ôl.

Ond bydd y dorf o 33,000 gyda thocynnau hefyd yn cael y cyfle i weld rhagor o chwaraewyr gorau’r byd gan gynnwys Ronaldo, James Rodriguez a Toni Kroos yn dangos eu doniau ar y cae.

Er i gyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd gyfaddef ei bod yn “wych bod yn ôl adref”, mae hefyd yn gwybod bod gwaith i’w wneud.

Meddai Gareth Bale: “Pob tymor, rydyn ni’n ceisio ennill bob tlws. Mi fyddwn ni’n ceisio ein gorau i ennill Cynghrair y Pencampwyr a’r Prif Gynghrair Sbaeneg eto eleni.

“Mae’n wych bod yn ôl adref, ond y peth pwysicaf yw ennill y gêm a’r gwpan. Mae angen i ni ganolbwyntio ar hynny ac nid arna i yn chwarae yn fy nhref enedigol.”

Flwyddyn yn ôl  roedd Gareth Bale yn agos at gwblhau’r cytundeb gwerth £86 miliwn a welodd y chwaraewr yn symud o Tottenham i Real Madrid am y pris uchaf erioed am chwaraewr pêl droed.

Fe wnaeth Gareth Bale hefyd ddisgleirio i Real Madrid yn erbyn Sevilla y tymor diwethaf ac fe sgoriodd ddwywaith mewn crasfa o  7-3 i’r tîm o brifddinas Sbaen.