Tlysau Ewrop
Mae UEFA wedi rhybuddio nad oes unrhyw docynnau ar ôl i’w gwerthu ar gyfer ffeinal y Super Cup Yng Nghaerdydd nos yfory – gan ofyn i bobl fod yn wyliadwrus o rai ffug.

Fe fydd Real Madrid yn herio Sevilla nos yfory yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn y gêm flynyddol rhwng enillwyr Cynghrair y Pencampwyr ac enillwyr Cynghrair Ewropa.

Ac ar drothwy’r gêm mae UEFA, Cymdeithas Bêl-droed Cymru a CPD Dinas Caerdydd wedi rhybuddio nad oes rhagor o docynnau ar ôl.

Dywedodd yr awdurdodau nad oes hawl gan bobl drosglwyddo nac ailwerthu tocynnau ar gyfer y gêm, y gêm gystadleuol gyntaf i gael ei chwarae yn y stadiwm ers i’r eisteddle newydd agor gan gynyddu maint y stadiwm i dros 33,000 o seddi.

“Dyw gwefannau sydd yn cynnig tocynnau, yn aml am bris uwch,  ddim wedi cael caniatâd gan UEFA i wneud hynny,” meddai datganiad gan y corff sydd yn llywodraethu pêl-droed Ewropeaidd.

“Yn ogystal, gall tocynnau o’r fath fod yn rai ffug ac mae’n debygol na chaiff prynwyr sydd heb sylwi ar hyn fynediad i’r stadiwm,” ychwanegwyd.

Mae UEFA eisoes wedi cyhoeddi bod galw mawr lleol wedi bod ar gyfer y tocynnau, gyda chefnogwyr Cymru’n gobeithio gweld Gareth Bale yn dangos ei ddoniau mewn crys Real Madrid am y tro cyntaf yng Nghymru.

Mae CBDC hefyd yn awyddus i sicrhau fod y noson yn llwyddiant, gan eu bod yn awyddus i ddangos i’r awdurdodau pêl-droed fod Caerdydd yn gallu cynnal gemau mawr o’r fath.

Mae Caerdydd ar restr o 19 dinas sydd wedi rhoi cais i gynnal gemau Ewro 2020, ac yn gobeithio bod yn un o’r 13 dinas gaiff eu dewis ym mis Medi.