Gary Medel
Mae Inter Milan wedi cyhoeddi lluniau o’r chwaraewr canol cae Gary Medel yn ymarfer gyda’r tîm am y tro cyntaf.
Bu’r Eidalwyr mewn trafodaethau â Chaerdydd yr wythnos diwethaf i arwyddo’r gŵr o Chile, ac mae’n ymddangos eu bod bellach wedi dod i gytundeb.
Dyw’r un o’r clybiau wedi cadarnhau yn swyddogol beth yw maint y trosglwyddiad, sydd tua £10m yn ôl adroddiadau niferus – £1m yn llai na beth dalodd Caerdydd amdano’r haf diwethaf.
Roedd disgwyl y byddai Medel yn symud cyn dechrau’r tymor, ar ôl i Gaerdydd gwympo o’r Uwch Gynghrair y tymor diwethaf.
Fe wnaeth argraff wrth chwarae dros Chile yng Nghwpan y Byd dros yr haf, gan arwain at sôn fod nifer o brif glybiau Ewrop ar ei ôl.
Mae sêr eraill fel Steven Caulker, Jordon Mutch a Frazier Campbell eisoes wedi gadael y clwb, tra bod yr rheolwr Ole Gunnar Solskjaer wedi cryfhau ei garfan gydag enwau megis Tom Adeyemi, Adam Le Fondre a Guido Burgstaller.
Fe ddechreuodd yr Adar Gleision eu tymor yn y Bencampwriaeth nos Wener gyda gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Blackburn.