Aaron Ramsey'n dathlu ei gôl (Llun: Nick Potts/PA Wire)
Enillodd Arsenal Dlws Cymunedol yr FA diolch i berfformiad arbennig – a gôl – gan Aaron Ramsey.
Roedd Arsenal yn drech na phencampwyr yr uwchgynghrair y llynedd, Manchester City, gan ennill 3-0 diolch i goliau Santi Cazorla a Ramsey yn yr hanner cyntaf, ac ergyd drawiadol gan Olivier Giroud o 25 llath yn yr ail hanner.
Roedd Ramsey yn seren yn Wembley ym mis Mai wrth i Arsenal ennill eu tlws cyntaf ers naw tymor pan guron nhw Hull yng nghwpan yr FA, ac roedd y crwt o Gaerffili yn chwaraewr allweddol unwaith eto heddiw yng nghanol cae Arsenal.
Mae’r uwchgynghrair – a’r brwydro go iawn – yn dechrau’r penwythnos nesaf, ond yn y cyfamser bydd neb o blith cefnogwyr Arsenal yn gwarafun ail dlws o fewn tri mis.