Sioned Harries
Llwyddodd Cymru i osgoi gorffen ar waelod grŵp C yng Nghwpan y Byd y merched drwy guro De Affrica o 35-3 nos Sadwrn ym Marcoussis.
Sgoriodd yr wythwr o Geredigion Sioned Harries dri chais ym muddugoliaeth gyntaf merched Cymru yn nghymal y grwpiau er 1998.
Byddan nhw’n wynebu Seland Newydd nesaf mewn gêm ail gyfle, a dywed y maswr Elinor Snowsill fod y fuddugoliaeth fawr dros Dde Affrica yn mynd i roi hwb iddyn nhw wrth gwrdd â’r Rhedyn Duon.
Nid oedd Seland Newydd wedi colli gêm yng Nghwpan y Byd er 1991 tan iddyn nhw golli i Iwerddon nos Fawrth diwethaf.