Fe fydd S4C yn darlledu gêm gyfeillgar Abertawe v Villarreal prynhawn ma  yn fyw ar y we.

Bydd modd gweld y gêm eto rhwng y tîm o Uwch Gynghrair Lloegr a sêr y clwb o La Liga yn y rhaglen Sgorio yfory am 4yp.

Dyma fydd y gêm barataol olaf cyn i Abertawe wynebu gêm gyntaf Uwch Gynghrair Lloegr yn erbyn Manchester United yn Old Trafford y Sadwrn canlynol.

Ac mae’n gryn sialens yn erbyn Villarreal o dde ddwyrain Sbaen sydd wedi bod yn cystadlu yn erbyn y cewri yng Nghynghrair Pencampwyr Ewrop dros y degawd diwethaf.

Dylan Ebenezer fydd yn cyflwyno o Stadiwm Liberty, gyda Malcolm Allen a John Hartson yn trafod a dadansoddi’r chwarae a Nic Parry yn sylwebu.

‘Brwydr ddifyr’

Mae Malcolm Allen, cyn-chwaraewr Cymru a Newcastle, yn credu y bydd y gêm yn llinyn mesur o sut mae Abertawe yn siapio o dan yr hyfforddwr Garry Monk.

“Dwi’n gwybod y bydd llawer o gefnogwyr Abertawe yn anghytuno hefo mi, ond dwi’n gweld yr Elyrch yn ei chael hi’n anodd iawn y tymor hwn.

“Rhaid iddyn nhw gael dechrau da neu fe fyddan nhw’n wynebu’r frwydr o geisio osgoi disgyn o’r Uwch Gynghrair o’r dechrau un.

“Mae gynnon nhw reolwr ifanc dibrofiad ac wedi colli amryw chwaraewr allweddol. Fe fydd yn anodd cael hyd i chwaraewyr i lenwi sgidiau Davies, Michu a Vorm.

“Ond os gallan nhw gael dechrau da – gan gynnwys buddugoliaeth swmpus yn y gêm gyfeillgar hon, fe all roi hyder i’r chwaraewyr yn yr ystafell newid. Fydd hi’n frwydr ddifyr yn erbyn tîm Villarreal sydd wedi bod ymhlith goreuon La Liga dros y blynyddoedd ond sy’n dal i ail sefydlu ei hun yn y Primera ar ôl un tymor yn yr adran is yn 2012-13.”

Bydd y  gêm i’w gweld ar s4c.co.uk  gyda’r gic gyntaf am 3yp ac ar Sgorio fory am 4.

Fe fydd sylwebaeth Saesneg ar gael ar y gwasanaeth botwm coch ar gyfer y ddau ddarllediad.