Mae cwmni Gilbert wedi creu pêl rygbi newydd yn benodol ar gyfer clybiau Cynghrair SWALEC.
Yn ôl Undeb Rygbi Cymru mae’r bêl newydd yn elwa o dechnoleg pwytho falf sy’n rhoi “cymeriadau cicio gwych” iddi.
Ac mae gweithwyr cwmni SWALEC wedi pleidleisio mae ‘Trydan’ fydd enw’r bêl newydd.
Pob blwyddyn mae holl glybiau Cynghrair SWALEC yn derbyn celc o beli am ddim, oherwydd partneriaeth rhwng Undeb Rygbi Cymru a chwmni Gilbert.
Meddai Josh Lewsey, Pennaeth Rygbi Undeb Rygbi Cymru: “Rydym yn falch iawn o fedru gwobrwyo clybiau ar lawr gwlad, yn enwedig y rhai hynny sy’n rhoi gymaint i’r gêm yng Nghymru drwy ddatblygu chwaraewyr, hyfforddwyr a dyfarnwyr…rydym yn ddiolchgar i Gilbert am gynhyrchu’r bêl newydd yma o safon uwch i’w defnyddio drwy gynghreiriau SWALEC, a galluogi’r clybiau i brynu peli ychwanegol am bris rhatach.”