James Hook
Mae disgwyl i dîm rygbi Caerloyw gyhoeddi eu bod nhw’n arwyddo chwaraewr rhyngwladol Cymru James Hook heddiw.

Bydd James Hook yn teithio gyda charfan Cymru i Dde Affrica dydd Iau ond mae disgwyl iddo wneud hynny fel aelod newydd o glwb Caerloyw.

Bydd bachwr Cymru, Richard Hibbard, hefyd yn symud i Gaerloyw o’r Gweilch dros yr haf.

Mae James Hook wedi ennill 75 o gapiau i Gymru ac fe wnaeth o arwyddo cytundeb newydd gyda’r clwb Ffrenig, Perpignion, fis Medi’r llynedd.

Ond wedi i Perpignion gwympo o brif gynghrair Ffrainc eleni, mae’n rhydd i adael yn ôl manylion ei gytundeb.

Gall James Hook fod yn eithaf hyderus o gael crys rhif 10 Caerloyw wedi i’r maswr, Freddie Burns, symud i Gaerlŷr.