Geraint Thomas
Mae’r Cymro Geraint Thomas wedi cipio ei ail fuddugoliaeth yn ras seiclo y Bayern – Rundfahrt yn ardal Bavaria o’r Almaen.

Fe enillodd Geraint Thomas (Tim Sky) y ras – sy’n  700 cilomedr ac yn cael ei chwblhau o fewn pedwar cymal – yn 2011 hefyd.

Mathias Frank (IAM Cycling) o’r Swistir oedd yn ail gyda Vasil Kiryienka (Sky) yn drydydd.

“Fe wnes i lot o ymarfer caled yn Tenerife cyn y ras,” meddai Geraint Thomas sy’n 28 oed ar wefan Tim Sky.

“Mae ennill wedi rhoi hwb mawr i mi gyda haf prysur o’m mlaen. Roedd hi’n hynod braf cael y canlyniad yma a dwi rŵan yn edrych ymlaen at gefnogi Chris Froome yn y Tour de France.”

Dyma ras gyntaf Gabriel Rasch fel cyfarwyddwr chwaraeon Tim Sky.