Mae cyn brif weithredwr rygbi Cymru David Moffett wedi dweud bod ganddo ddigon o gefnogaeth i orfodi Undeb Rygbi Cymru i gynnal Cyfarfod Cyffredinol Arbennig.

Mae Moffett, sy’n ceisio cael ei ethol i’r corff llywodraethu, wedi dweud bod 51 o glybiau rygbi Cymru wedi pleidleisio o blaid cynnal y cyfarfod , yn fwy na’r 32 gofynnol.

Gallai pleidlais o ddiffyg hyder yn yr Undeb bresennol yn y cyfarfod orfodi ei aelodau etholedig allan, gan roi cyfle i Moffett ddychwelyd.