Llwyddodd Cymry Llundain i gipio
lle yn ffeinal pencampwriaeth Lloegr ar ôl curo Leeds o drwch blewyn mewn gêm gyffrous yn Rhydychen.

Er bod y Cymry ar ei hôl hi o 13 pwynt dros y ddau gymal, ac ond 13 munud yn weddill, llwyddon nhw i sgorio dau gais o fewn pedair munud ar faes Kassam.

Yna ciciodd y maswr profiadol Gordon Ross gic gosb hwyr i ennill 29-20 ar y diwrnod, 60-58 dros y ddau gymal.

Y Cymry oedd y ffefrynnau i ennill a nhw gafodd y rhan fwyaf o’r meddiant, ond doedd anel Gordon Ross at y pyst ddim yn gywir a methodd bum cic. Ond yr Albanwr oedd yr arwr erbyn diwedd wrth drosi’r gic gosb fuddugol.

Mae Cymry Llundain yn cwrdd â Bryste ar Fai 28 yng nghymal cyntaf y rownd derfynol, wrth i’r ddau glwb anelu am le yn uwchgynghrair Lloegr.

Enillodd Bryste neithiwr dan arweinyddiaeth cyn-gapten Cymru, Ryan Jones. Ciciodd cyn-faswr Caerdydd Nicky Robinson 17 pwynt yn eu buddugoliaeth dros Rotherham.