Cleverly yn dathlu (Llun:Tim Ireland/PA Wire)
Enillodd Nathan Cleverly ei ornest gyntaf yn y dosbarth pwysau crwser yng Nghaerdydd neithiwr, a hynny o fewn dwy rownd.

Rhoddodd y dyfarnwr stop ar yr ornest wrth i’r Cymro daro cyfres o ergydion yn erbyn ei wrthwynebydd 39 oed o’r Caribî, Shawn Corbin, yn y Motorpoint Arena

Dyma oedd ffeit gyntaf Cleverly ers colli ei deitl WBO is-drwm y byd yn erbyn Sergey Kovalev ym mis Awst y llynedd. Ers hynny cododd y gŵr 27 mlwydd oed o Gefn Fforest o’r dosbarth is-drwm i bwysau crwser.

Newidiodd hefyd ei hyfforddwr a’i hyrwyddwr ers y golled boenus i Kovalev ond ni chafodd drafferth curo Corbin, gan ennill teitl rhyng-gyfandirol y WBO.

Ynghynt yn y noson curodd Gavin Rees ei gyd-Gymro Gary Buckland yn y pwysau is-welter. Dyma oedd gornest olaf Rees cyn ymddeol, ac yntau’n cyn-bencampwr WBA y byd.