Bangor 2–0 Y Rhyl
Bydd Bangor yn cynrychioli Cymru yng Nghyngrair Ewropa’r tymor nesaf wedi iddynt drechu’r arch elyn, Y Rhyl, yn rownd derfynol y gemau ail gyfle ar Nantporth brynhawn Sadwrn.
Roedd goliau Les Davies a Chris Jones o’r smotyn yn ddigon i drechu’r Claerwynion, a orffennodd y gêm gyda naw dyn.
Hanner Cyntaf
Dechreuodd y gêm yn ddigon bywiog gyda Sion Edwards yn creu trafferthion i’r Rhyl ar yr asgell chwith. Cafodd Davies gyfle â’i ben i Fangor a cheisiodd Mark Cadwallader ei lwc o ochr y cwrt cosbi yn y pen arall yn y chwarter awr cyntaf.
Yna, tua hanner ffordd trwy’r hanner fe ddaeth Chris Jones yn agos i Fangor gyda foli o ochr y cwrt a gorfododd peniad Chris Rimmer arbediad gan Jack Cudworth yn y gôl i’r Dinasyddion.
Aeth y gêm yn flêr wedi hynny ond fe gafodd Bangor un cyfle arall cyn yr egwyl. Cafodd Chris Jones ei ryddhau gan bas Damien Allen ond ergydiodd yn syth at Alex Ramsay yn y gôl.
Ail Hanner
Chwaraeodd y Rhyl ran helaeth o’r ail hanner gyda deg dyn yn dilyn ail gerdyn melyn a cherdyn coch i Peter Dogan.
Roedd hi’n anorfod y byddai Bangor yn cael mwy o le wedi hynny ac fe fanteisiodd Les Davies yn llawn toc wedi’r awr. Daeth Allen o hyd i’r ‘Tanc’ ar ochr y cwrt cosbi, cymerodd yntau un cyffyrddiad i droi ac un cyffyrddiad i daro chwip o ergyd i gornel isaf y gôl.
Dyblodd Chris Jones y fantais o’r smotyn ddeg munud yn ddiweddarach wedi i Matty Woodward lawio’r bêl yn y cwrt cosbi. Doedd hi ddim mo’r gic o’r smotyn orau erioed ond fe grafodd hi dros y llinell.
Doedd dim ffordd yn ôl i’r Rhyl wedi hynny ac fe aeth y rhwystredigaeth yn drech na’i chwaraewr canol cae, Tom Donegan, wrth iddo gael ail gerdyn coch ei dîm yn dilyn tacl erchyll ar Les Davies wrth y lluman cornel.
Bangor felly fydd yn ymuno ag Airbus ac Aberystwyth yng Nghynghrair Ewropa’r tymor nesaf felly gyda’r Seintiau Newydd yn cystadlu yng Nghynghrair y Pencampwyr.
.
Bangor
Tîm: Cudworth, Walker, Roberts, Johnston, Miley, Chris Jones (Corey Jones 90’), Ryan Edwards, Robert Jones (McDaid 67’), Davies, Allen, Sion Edwards (Colbeck 88’)
Goliau: Davies 64’, Chris Jones [c.o.s.] 75’
.
Y Rhyl
Tîm: Ramsay, Woodward, Benson (Donegan 76’), Astles, Rimmer, McManus, Cadwallader, Dogan, Roca (Hughes 54’), Forbes, Lewis
Cardiau Melyn: Dogan 9’, 51’, Forbes 38’, Forbes 60’, Ramsay 73’, Cadwallader 73’, McManus 75’
Cardiau Coch: Dogan 51’, Donegan 90’
.
Torf: 1,442