Ryan Jones
Bydd cyn-gapten Cymru, Ryan Jones yn dechrau am y tro cyntaf i Fryste yfory yn erbyn Rotherham. Caiff y blaenwr a adawodd y Gweilch ychydig amser yn ôl yn cychwyn yn safle’r wythwr yn y gêm ail gymal o’r rownd gyn-derfynol.
Ar ôl y cymal cyntaf mae Bryste ar y blaen 17-14. Bydd y buddugwyr yn chwarae Leeds Carnegie neu Gymry Llundain yn y rownd derfynol.
Mae Cyafrwyddwr Rygbi Bryste, Andy Robinson wedi gwneud pum newid ar gyfer y gêm hon gyda Jack Wallace, Ben Moses, James Hall a Glen Townson – yn ogystal â Jones – yn dechrau’r gêm.
Enillodd Ryan Jones 75 o gapiau dros Gymru gan arwain ei wlad mewn 33 o gemau sy’n record fel capten Cymru. Bydd nifer o chwaraewyr rhyngwladol eraill yn ymuno â Bryste yn ystod yr haf gyda chwaraewyr fel y mewnwr Dwayne Peel a’r prop o Samoa Anthony Perenise yn symud i’r clwb.