Rhys Priestland
Mae’r Scarlets wedi cadarnhau na fydd eu maswr Rhys Priestland yn holliach o anaf i’w ben-glin nes fis Awst, ar ôl iddo anafu’i hun yn eu gêm olaf o’r tymor yn erbyn y Gleision.

Ni chafodd y maswr, sydd wedi ennill 30 cap dros Gymru, ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer y gêm dreial fydd yn digwydd cyn i Warren Gatland ddewis pwy fydd yn mynd ar y daith i Dde Affrica ym mis Mehefin.

Heddiw fe ddywedodd ei ranbarth na fydd yn ffit i ymarfer eto nes o leiaf canol mis Awst, gan sicrhau na fydd Priestland yn chwarae unrhyw ran ar y daith honno.

Ni fydd Scott Williams yn teithio gyda charfan Cymru i Dde Affrica chwaith er gwaethaf y ffaith ei fod ar fin gwella o anaf i’w ysgwydd.

Fe wnaethpwyd y penderfyniad i adael Williams ar ôl er mwyn iddo gael cyfle i orffwys cyn adennill ei ffitrwydd gyda’r Scarlets pan fydd tîm y rhanbarth yn dechrau ymarfer eto yng nghanol mis Mehefin.

Mae chwaraewr rheng ôl y Scarlets John Barclay, y bachwr Emyr Phillips a’r canolwr Adam Warren i gyd wedi cael triniaeth i’w hysgwyddau yn y gobaith y byddan nhw’n ffit erbyn dechrau’r tymor nesaf.

Bydd yr asgellwr Kyle Evans hefyd yn gobeithio dychwelyd o anaf i gymalau yn ei droed erbyn dechrau’r tymor, gyda’r Scarlets eisoes wedi sicrhau’i lle yn y Cwpan Pencampwyr Ewrop newydd ar ôl gorffen yn chweched yn y Pro12 eleni.