Ymosodwr Bournemouth Lewis Grabban (llun: AshleyBarton65)
Mae Bournemouth wedi derbyn cynnig o dros £3m gan Gaerdydd am eu hymosodwr Lewis Grabban wrth i’r clwb baratoi am dymor nesaf yn y Bencampwriaeth.

Dyw’r swm ddim wedi cael ei ddatgelu’n swyddogol eto, ond yn ôl adroddiadau mae cynnig Caerdydd yn ddigon i gyrraedd cymal yng nghytundeb Grabban sydd yn golygu ei fod yn cael gadael petai cynnig o £3m yn cael ei wneud.

Ar ôl tymor siomedig yn yr Uwch Gynghrair pan oedd sgorio goliau’n broblem fawr i Gaerdydd mae’n ymddangos fod y rheolwr Ole Gunnar Solskjaer yn awyddus i gryfhau’r ymosod.

Ond mae sïon fod Middlesbrough wedi gwneud yr un cynnig am y gŵr 26 oed, fydd yn golygu’r ddau dîm yn mynd benben â’i gilydd i’w arwyddo.

Fe sgoriodd Grabban 22 gôl i’w glwb y tymor hwn wrth i Bournemouth orffen yn ddegfed yn y Bencampwriaeth.

Yn gynharach yr wythnos hon fe gadarnhaodd Caerdydd eu bod wedi cytuno i arwyddo Javi Guerra o Real Valladolid yn yr haf.

Bydd yr ymosodwr 32 oed yn symud am ddim ar ôl i’w gytundeb gyda’r clwb Sbaenaidd ddod i ben yn yr haf.

Mae’n bosib mai Grabban a Guerra fydd prif ymosodwyr Caerdydd y tymor nesaf, gyda’u hymosodwr presennol Frazier Campbell yn denu sylw clybiau o’r Uwch Gynghrair a dyfodol Kenwyne Jones hefyd yn ansicr.