Gavin Henson
Mae canolwr Caerfaddon, Gavin Henson, wedi cael ei gynnwys yn y garfan o chwaraewyr sy’n debygol o fynd ar daith i Dde Affrica.
Nid yw Henson, 32, wedi chwarae dros Gymru ers iddo gael ei anafu yn chwarae yn erbyn Lloegr mewn gem baratoi cyn Cwpan y Byd yn 2011.
Bydd dau dîm o chwaraewyr Cymru yn chwarae yn erbyn ei gilydd ar Mai 30. Bydd un tîm yn cynnwys y chwaraewyr sy’n debygol o gael eu dewis ar gyfer taith Cymru i Dde Affrica mis nesa a’r tîm arall yn cynnwys rhai fydd efallai’n cael eu dewis.
Mae Gavin Henson wedi cael ei enwi ymhlith carfan y rhai sy’n debygol o gael eu dewis o dan arweiniad Alun-Wyn Jones. Bachwr y Gleision, Matthew Rees, yw capten yr ail dîm.
Carfan Gatland
Mae disgwyl i hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, enwi’r garfan fydd yn mynd i Dde Affrica yn ystod ei gynhadledd i’r wasg ar ôl y gêm brawf yn Stadiwm Liberty, Abertawe.
Nid oes unrhyw sicrwydd, fodd bynnag, y bydd Henson a chwaraewyr sy’n chwarae gyda chlybiau yn Ffrainc neu Loegr yn cael eu rhyddhau ar gyfer y gêm.
Nid oes rhaid i glybiau yn Lloegr a Ffrainc ryddhau chwaraewyr gan nad yw’r gêm yn gêm brawf swyddogol fel y nodir gan y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol.
Ac mae Warren Gatland eisoes dan bwysau oherwydd bod llawer o chwaraewyr wedi eu hanafu ac yn methu mynd i Dde Affrica. Mae’r rhain yn cynnwys Sam Warburton, Leigh Halfpenny, Justin Tipuric, Scott Williams a Richard Hibbard.
Mae 12 o chwaraewyr sydd heb ennill cap wedi eu henwi yn y ddwy garfan ar gyfer y gêm brawf. Mae’r rhain yn cynnwys Sam Davies o’r Gweilch, Owen Evans o’r Dreigiau, Owen Williams o Gaerlŷr a Kristian Dacey a Macauley Cook o’r Gleision.
‘Ennill eu lle’
Meddai Rob Howley o dîm hyfforddi Cymru: “Mae’r prawf yn gyfle gwych i ni i weld pob un o’r chwaraewyr hyn yn agos a bydd yn caniatáu iddynt frwydro yn erbyn ei gilydd.
“Mae’n mynd â ni yn ôl at ddyddiau’r treialon traddodiadol ac fe fydd yn rhoi cyfle i rai ohonynt ennill eu lle. Bydd y ddwy ochr yn mynd amdani a bydd gan y chwaraewyr bwynt i’w brofi.”