Gweilch 45–20 Connacht

Daeth tymor siomedig y Gweilch i ben ar nodyn cadarnhaol nos Sadwrn wrth iddynt guro Connacht yn gyfforddus ar y Liberty.

Sgoriodd y Cymry chwe chais yn erbyn tri’r ymwelwyr yng ngêm olaf y tymor yn y RaboDirect Pro12.

Hanner Cyntaf

Croesodd Jeff Hassler am gais cyntaf y Gweilch wedi deuddeg munud ac roedd y gŵr o Ganada’n ganolog yn y ddau arall sgoriodd y Cymry cyn yr egwyl hefyd.

Ei redeg egniol ef greodd y sylfaen i Ashley Beck ar gyfer yr ail, ac yna Alun Wyn Jones am y trydydd.

Mantais fain oedd un y Gweilch ar yr egwyl serch hynny gan i Darragh Leader  a Dennis Buckley groesi i’r Gwyddelod.

Ail Hanner

Ychwanegodd Conor Gilsenan drydydd cais i Connacht wedi’r egwyl ond ar wahân i’r ymdrech honno toc wedi’r awr, hanner y Gweilch oedd hi.

Sicrhaodd Beck y pwynt bonws gyda’i ail ef o’r gêm a rhoddodd Nicky Smith a Dan Baker yr eisin ar y gacen gyda cais yr un yn y chwarter olaf.

Gorffennodd Dan Biggar dymor da iddo ef yn bersonol gyda phymtheg pwynt yn y gêm olaf, ond siomedig oedd tymor y Gweilch yn gyffredinol wrth iddynt orffen yn bumed yn y tabl.

.

Gweilch

Ceisiau: Jeff Hassler 12’, Ashley Beck 27’, 45’, Alun Wyn Jones 36’, Nicky Smith 60’, Dan Baker 68’

Trosiadau: Dan Biggar 14’, 28’, 37’, 46’, 62’, 69’

Cic Gosb: Dan Biggar 34’

Cerdyn Melyn: Alun Wyn Jones 75’

.

Connacht

Ceisiau: Darragh Leader 17’, Dennis Buckley 40, Conor Gilsenan 63’

Trosiad: Miah Nikora 4’

Cic Gosb: Miah Nikora 40’